Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

6.11.18

Cwm Hyfryd

Cyfres o gardiau post o'r Ariannin.
Dolen i'r gyntaf ar y gwaelod


Wrth gyrraedd lleoliad nesa'r daith, mae'r olygfa trwy ffenest y bws yn gwneud i mi eistedd i fyny'n sydyn. 'Croeso i Drefelin' medd yr arwydd yn Gymraeg yn ogystal â'r Gastilaneg a'r iaith frodorol.


Tu hwnt i'r arwydd, yn wynebu pawb sy'n cyrraedd y dref, mae canolfan wybodaeth a thair baner yn chwifio: y ddraig goch sy'n hawlio'r polyn canol, a baneri'r Ariannin a'r brodorion Tehuelche-Mapuche bob ochor iddi. Yno hefyd mae cerflun mawr o ddraig rhag ofn nad ydi pawb wedi deall eu bod wedi dod i ardal Gymreig.


Trwy gyswllt â Noe, cymwynaswraig leol yn Esquel, cawsom groeso cynnes gan griw o Wladfawyr yn fanno, ond rhaid i rywun chwilio'n go ddyfal i ganfod unrhyw Gymraeg ar y stryd yno. Nid felly Trefelin!
Dyma le sy'n arddel ei Gymreictod yn falch. Mae llawer o'r siopau yn gwneud hynny'n amlwg; ac mae pob arwydd cyhoeddus yn ddwy- neu'n dairieithog.

Heb hostel, rhaid talu ychydig yn fwy i aros mewn llety gwely a brecwas yn Nhrefelin, ac er yn groesawgar iawn, mae'n anodd perswadio'r perchennog nad oes raid iddo fo ein diddanu trwy gydol ein harhosiad! Yn garedig iawn, mae'n rhoi gwibdaith o'r dref i ni, ac yn ein tywys at lan afon Futaleufú i dynnu llun, ac i weld fflamingos ar lan pyllau ar gyrion y dre'.

Gyda'r nos, cawn stecan anferth efo Ernesto a'i deulu, ac er nad oes ganddo gysylltiad Cymreig o fath yn y byd, mae'n holi'n daer am hanesion o Gymru fach ac yn awyddus i rannu ei frwdfrydedd am yr Ariannin hefyd. Mewn bwlch yn y sgwrsio, dwi'n ymddiheuro gorau fedrwn ac yn dianc i'r llofft i gael rhoi fy nhraed i fyny o'r diwedd!

Ym Mharc Cenedlaethol Los Alerces, mae ardaloedd eang nad yw'n bosib crwydro heb dywysydd swyddogol, ac ar ôl edrych ymlaen yn arw ers wythnosau, mae'n siom garw i ddeall nad yw'r trek at rewlif Torrecillas ar gael yr adeg yma o'r flwyddyn!

Dan awyr las gwych, mae ymweld ag argae trydan-dŵr San Martin rhwng mynydd trawiadol Gorsedd y Cwmwl, a chadwyn Mynyddoedd y Cymry yn lleddfu rhywfaint ar y siom am wn i, a dwi'n gwneud y gorau o'r cyfle i dynnu cant o luniau, ond mae'n drysu 'mhen i na fedraf ddilyn trwyn lle mynnwn am y dydd.


Boddwyd y dyffryn heb glirio'r coed oedd yn tyfu yno, a rwan mae ambell fae a glan Lago Amutui Quimey fel mynwent boncyffion gwyn, yn sgerbydau noeth blith-draphlith ar y graean.  Nôl yn y llety, mae Ernesto yn disgrifio sut mae'r coed yn ffrwydro'n rheolaidd i wyneb y llyn yn ddirybudd ar ôl blynyddoedd o ddadwreiddio araf dan y dŵr. Nid yw'n ddiogel rhoi cwch ar y llyn o'r herwydd.

Ddiwedd y pnawn mae tacsi'n ein codi o'r plaza i fynd i weld tiwlips enwog Cwm Hyfryd, tua deg milltir o Drefelin ar ffordd Bwlch Futaleufú i Chile. Mae o'n fodlon aros am dri chwarter awr i ni gael edmygu stribedi lliwgar y blodau'n siglo fel un yn awel ysgafn gyda'r nos, wrth i'r haul araf ddisgyn at gopaon gwynion y gorwel.


Heb gar ein hunain, mae'n profi'n anymarferol i ni gyfuno ymweliad i Nant y Fall a Melin Nant Fach; mae bar bach yn y dref yn galw beth bynnag, a phump bragdy lleol yn gwerthu cwrw artesanal  yno. Da ydyn nhw hefyd.

Drannoeth, mae cael crwydro Lôn y Rifleros efo Gwion -hogyn o Besda sy'n byw yma- yn uchafbwynt heb os.

O weithio yn y byd cadwraeth adra yng Nghymru, bu'n gwirfoddoli efo awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ôl symud allan yma, ac yn ogystal a chyfoeth o wybodaeth am fywyd gwyllt yr ardal ac enwau Cymraeg y mynyddoedd, mae'n fraint cael gweld rhai o leoliadau hanesyddol y Cymry efo fo.

Ond, daeth diwedd ein hamser yn Nhrefelin hefyd.

Cyn gadael, mae Amgueddfa'r Andes yn werth ymweliad, a the bach Cymreig yn un o'r Tai Te yn ddigon dymunol. Mae'r deisen ddu yn flasus, ond mae'n brofiad rhyfedd iawn ac emosiynol clywed 'Cân Walter' Meic Stevens, a chasgliad rhyfeddol o ganeuon Cymraeg, fel 'Fydd y chwyldro ddim ar y teledu, gyfaill' ymlaen yn y cefndir, a ninnau mor bell o adra.

O gymharu â'r frechdan gaws-pôb a ham sydd ar gael yn rhad ymhob man, braidd yn ddrud ydi'r te Cymreig, felly cip sydyn ar y llyfr ymwelwyr ac allan a ni.

Methiant ydi'r trydydd cynnig, dros dri diwrnod, i gael Amgueddfa Cartref Taid a bedd y ceffyl enwog -Malacara- ar agor;  ac ychydig iawn iawn welis i o Wladfawyr Trefelin hefyd yn anffodus; ond bu'n bleser cael bod yma am gyfnod byr serch hynny.

Y plaza amdani felly, i ddal bws lleol 'nôl am Esquel: Mae taith wyth awr dros y paith o'n blaenau.

Cwm Bagillt a Mynyddoedd y Cymry ar y chwith, a Gorsedd y Cwmwl ar y dde


  [Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #7. PW 22-25 Hydref 2018]
 











No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau