Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

23.10.16

Hanner o be gymrwch chi?

O'r diwedd, daeth y sêr a'r planedau i gyd at eu gilydd i roi diwrnod rhydd a thywydd (gweddol) sych, i ni fedru troi rhywfaint o afalau yn sudd, a'r sudd yn seidr.


Methiant llwyr oedd ein coed afalau ni yma, felly casglwyd ychydig o afalau o fan hyn, a mwy o fan draw. Afalau Enlli a James Grieve o ardd fy rhieni -y rhan fwya' wedi eu hel tra oedden nhw yn Llundain am y penwythnos!

Digonedd o afalau coginio mawr efo gwawr goch ar y croen, gan ffrind o Sir Fôn, ac afalau bach melys coch, efo'r cochni yn treiddio trwy'r cnawd. Ac ychydig bwysi o afalau bramley a cox o hen, hen berllan mewn lleoliad cyfrinachol!

Golchi, didoli, chwarteru




Llifio a rhisglo coedyn er mwyn creu pastwn...



...wedyn stwnshio!

Trosglwyddo i'r wasg, a GWASGU pob diferyn.
Yfed rhywfaint i sicrhau fod y gymysgedd afalau wedi rhoi sudd blasus a melys. Wedyn yfed mwy, am ei fod o mor ddiawchedig o dda.


Ychwanegu burum, wedyn trosglwyddo i demi-johns i fywiogi am ychydig ddyddiau efo wadin yng ngwddw'r poteli. Wedyn glanhau'r ewyn o yddfau'r poteli a gosod corcyn eplesu ym mhob un.


Ac aros.

Am tua mis yn y lle cynta' mae'n siwr -mae'r gegin acw ychydig yn oerach nag sy'n ddelfrydol iddo weithio'n gynt- wedyn trosglwyddo i demi-johns glân ac ychwanegu siwgr, wedyn aros eto nes mae'r eplesu wedi gorffen a throsglwyddo i boteli tan y flwyddyn newydd!

Er bod y sterileiddio a'r paratoi a'r prosesu a'r gwasgu a'r clirio a'r golchi yn dipyn o waith, hynny oedd rhan hawdd y peth. Aros sy'n anodd!

Iechyd da bawb.



2 comments:

  1. Llongufarchiadau! Erioed wedi gwneud seidr. Cafodd fy mab sudd afal pan aethon i "Ddiwrnod Afal" lleol ychydig o flynyddoedd yn ol, ond, yn anffodus, doedd y seidr a wnaeth o, ddim yn dda iawn. Edrych ymlaen i weld y canlyndiadau mean amber....

    ReplyDelete
    Replies
    1. wel ia, does dim sicrwydd y bydd hwn yn llwyddianus chwaith, ond mae'n werth rhoi cynnig arni!
      Maae'r demijohn mawr yn dipyn mwy 'gweithgar' na'r botel fach, a'r lliwiau'n hollol wahanol hefyd.
      Gawn ni weld!

      Delete

Diolch am eich sylwadau