Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.8.15

Dim Eirin

Blwyddyn arall heb eirin.

Dim eirin Dinbych. Dim damsons gwyllt. Dim eirin tagu.

Mae pen draw i amynedd pawb, ac mae'r goeden eirin Dinbych yn yr ardd gefn yn agosáu at y last chance saloon. Mi flodeuodd hi eto eleni, ond ddaeth dim ffrwythau. Bosib iawn mae'r cyfnod oer adeg blodeuo achosodd y methiant, ond roedd gwenyn yn sicr wedi bod yn peillio arni. Bosib nad ydi'r goeden yn fodlon yn ei lle; rhy agored i wynt efallai.

Neu gall fod yr impiad a'r meithrin gwreiddiol yn sâl... dwn 'im.

Ar ôl blynyddoedd heb gynhyrchu, o'n i'n poeni digon amdani llynedd i ffonio'r feithrinfa sy'n impio a thyfu a gwerthu coed eirin Dinbych, i holi am gyngor.

"Rho flwyddyn/ddwy arall iddi" medda hwnnw. Mi fysa fo bysa!

Ta waeth, roedd y goeden wedi rhoi tua tair troedfedd o dyfiant newydd ar bob cangen eleni (awgrym bod y lleoliad yn addas?) ac yn datblygu'n hen beth blêr a heglog.

Dwi wedi ei thocio hi ddiwedd Gorffennaf, gan dorri'r prif fonyn er mwyn agor y canol, ac wedi lleihau hyd y tyfiant newydd i'w hanner.


Dwi wedi clirio popeth oedd yn tyfu o gwmpas ei bôn hi hefyd gan obeithio bod y cyfuniad -efo chydig o fwydo a thendans y gwanwyn nesa'- yn arwain at goeden mwy bodlon, a pherchnogion mwy bodlon hefyd.


Neu bydd y llif yn dod allan. Fe'i rhybuddwyd!


4 comments:

  1. Trieni mawr, a dim yn deg. Mae'r goden eirin Ddinbych yn edrych yn iach iawn. Does bosib ei fod angen coeden arall eirin? Ond fel arfer mae'r coed eirin yn gnweud yn iawn heb bartner, dwi'b meddwl. Ond os nad oes eirin tagu chwaith, efallai bod y tywydd rhyfedd eleni wedi cael effaith?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae gwefan y magwr, a label y goeden yn dweud "Presumably self fertile" ac mi ddywedodd y dyn ei hun y dylia hi gynhyrchu ffrwyth heb bartnar, ond mae'n siwr y byddai hi'n gwneud yn well efo coeden arall gerllaw. Yn anffodus does dim lle yma. Hmmm, angen mwy o arddio guerilla efallai...

      Delete
  2. Ble mae eich coeden Eirin Dinbych? a ydy hi wedi rhoi ffrwythau i chi eto?
    valeofclwyddenbighplum@gmail.com

    ReplyDelete
    Replies
    1. (Dwi'n eitha' da diolch; a sut ydych chi?!)
      Fel y gwelwch ar ben y dudalen, yn Stiniog mae'r goeden.
      Naddo, chawson ni dal DDIM UN eirinen, mewn 8 haf! Fel ddudis i mewn post diweddarach: 'mi gaiff fynd 'nôl i Ddimbach i'r diawl'.
      Ddim yn edrych yn addawol eleni chwaith yn ei nawfed blwyddyn yma. Mae ychydig o ffrwythau wedi ffurfio eto eleni, ond y rhan fwyaf o'r blodau heb eu peillio er gwaethaf y tywydd ffafriol a'r gwenyn/pryfaid niferus. Mae nifer o'r egin-ffrwyth eisoes wedi disgyn, fel bob blwyddyn arall.
      Dwi'n eithaf sicr erbyn hyn nad ydi hi'n llawn hunan-ffrwythlon fel mae'r magwr coed Ian Sturrock yn honni. Does gen i ddim lle ar gyfer coeden eirin arall yn anffodus, ond go brin y byswn i'n plannu coeden Ddinbych arall.

      Delete

Diolch am eich sylwadau