Anodd credu bod chwe mis cynta'r flwyddyn wedi mynd i rywle mwya' sydyn! Mae'r diwrnod hiraf wedi bod... "
downhill o hyn ymlaen" medda rhywun!
Twt lol, dyma adeg orau'r flwyddyn. Mae wedi c'nesu digon i rywun fedru aros allan yn yr ardd ar ôl i'r haul fachlud dros Graig Nyth y Gigfran, heb i'r gwybaid ddod allan o fewn eiliadau!
Nosweithiau hir, unai yn chwynu a gweithio, neu -rhywbeth nad ydym yn gwneud hanner digon ohono- ymlacio a mwynhau'r ardd. O na fyddai'n haf o hyd.
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEghv9knj43nVUeycArwUm3RXCnYGJaorMEzofLMd4DRHiofEM3t_QpaivUX_EzK3uvaGOj8cN6nmr8eobdHPEBqpgp9NieSkb_cFX_xu1LZdC9cl0mwrHspZhA1BWBtjAHqL7RQ70CjsR4/s640/29ain+Mehefin+2015+%25281%2529.JPG) |
Y bordor lafant yn prifio'n dda |
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEjImEEpdGebTzLAlXcprynIyWL8BF3g-qesg1p8vBeuAd3sdpY08iToEJEmrZ20vGmvwmmu6VOQTnaWHeyb1GobT57XlEV6jDBYbbuK_eJJQsCOnuneOagGN82K21XpCc2azxA-3g3eU8o/s640/29ain+Mehefin+2015+%25283%2529.JPG) |
Gwely wedi llenwi i'r ymylon efo mefus alpaidd. | | |
|
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEhqIqRkfaCdw17VGbVaHAu0kK5oYYYYxUtQ2xud0krvbHGXyeEjlVtNeAscfbNHfuZyAQDH6bk7fg3OZgo5nIV8Uf2MsjSEOPe7n-fgnxeFpfh7TPLHtAXzrUgvPPm6BSuh-IaUvyMAez8/s640/29ain+Mehefin+2015+%25282%2529.JPG) |
Y Fechan a fi wedi penderfynu ail-adrodd yr arbrawf i weld pa mor bell fedr malwod deithio'n ôl i'r ardd, ac yn ychwanegol y tro 'ma: faint o amser mae'n gymryd! |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau