Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

7.4.15

Rhiwbob 3


Dwi'n falch bod hwnna drosodd! Ar y 6ed o Awst y llynedd bu criw o gwmni teledu Fflic acw, yn ffilmio darn ar gyfer Cegin Bryn.

Ar ôl wyth mis o boeni a hel meddyliau, cafodd y bennod am riwbob ei darlledu wsos d'wytha.

Chwarae teg, trwy ddefnyddio llwyth o close-ups a gwaith camera'n symud yn gyflym o lun i lun, fe lwyddon nhw i wneud i'r ardd a'r rhandir edrych yn well ac yn llawnach nag oedden nhw!


Mi fuodd Bryn y Cogydd; a'r criw ffilmio: Rhodri, Lois a'r dyn camera/sain (#teimlo'n-euog-am-anghofio'r-enw) acw o ddeg y bore tan wedi chwech y nos! Ond er bod y gwaith yn ailadroddus a'r diwrnod yn hir, roedden nhw'n griw hwyliog a difyr. Doedd dim byd yn fawreddog nac ymffrostgar am seren y gyfres; roedd o'n gwmpeini difyr, ac yn ddigon caredig i ganmol y frechdan bacwn gafodd o yma i ginio!


Roedd y saws rhiwbob wnaeth o ar y rhandir i fynd efo selsig yn flasus iawn. Ac mae'r gin rhiwbob yn neis iawn hefyd, diolch yn fawr.

Doedd hi ddim yn hir cyn i'r tynnu coes ddechrau ar y stryd yn Stiniog 'ma. Er i mi beidio deud wrth neb bron, am y ffilmio, mae'n amhosib gwneud dim mewn cymuned gyfeillgar fel hon, heb i bawb wybod amdano! Ac wrth gwrs, efo S4C yn ail-ddangos pob peth, a'r rhaglen ar y we am gyfnod, does yna ddim dianc!

Roedd o'n brofiad difyr, oedd; ond dwi'n rhy swil i wneud hynna'n rhy aml!

Un peth cyn cau 'ngheg: na, ches i ddim tâl gan Antur Stiniog i'w hyrwyddo nhw ar fy nghrys, fel awgrymodd un o'r wags yn biwis ar y rhandir. Menter Gymunedol ydi Antur Stiniog, a'i nod ydi adfywio economi Bro Ffestiniog, trwy gynnig cyfleon i drigolion lleol fanteisio ar y cyfleoedd gwaith a hamdden mae'r maes antur ac awyr agored yn gynnig, yn hytrach na gadael y cwbl yn nwylo pobl ddiarth. Dwi'n aelod gwirfoddol o fwrdd Antur Stiniog ac yn falch o'r cyfle i'w hyrwyddo am ddim!


4 comments:

  1. Swnio fel antur gwych! Dwi'n gobeithio bod y rhaglen ar gael ar Clic o hyd ac yn edrych ymlaen i wylio fo!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ydi dwi'n meddwl Ann...ond paid a deud wrth bawb!

      Delete
  2. Eitem hyfryd. Y Blaenau'n edrych ar ei gorau. Biti nad oedd yr holl raglen wedi'i ffilmio ar y rhandir!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am dy eiriau caredig Martin. Mi fysa'i wedi cymryd wythnos i ffilmio'r rhaglen gyfa' yno!

      Delete

Diolch am eich sylwadau