Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

2.8.14

Jam a Jeribincs

Dwi wedi bod at fy nghlustiau mewn ffrwythau.


Mae'r rhewgell yn orlawn rwan, o gyrins cochion a chyrins duon. Roedd yn rhaid hel yr olaf o'r gwsberins, ac roedd hi'n amser hel llus eto. Mae'r cnwd olaf o riwbob yn galw am sylw hefyd, ond bydd yn rhaid i hwnnw aros lle mae o am rwan. Diolch i'r drefn mae dim ond fesul llond llaw mae'r mafon a'r mefus yn cochi yma.

 Mi fuodd hi'n farathon yma echnos, efo jam gwsberins a jam llus ar y popdy; a 'chydig o lus yn stiwio 'run pryd, i'w fwynhau efo iogyrt neu hufen ia dros y dyddiau nesa. O'n i hefyd yn jyglo, wrth aros i'r jam ferwi, efo paratoi fodca llus a brandi cyrins duon.


'Mond tair wythnos sydd ers i mi wneud jam efo'r cnwd gynta o gwsberins, a hwnnw'n goch gloyw. Erbyn hyn, roedd y ffrwythau wedi aeddfedu'n biws, a'r jam yn dywyllach o lawer. Fel llynedd, roedd yn ddiawl o job cael y jam llus i setio. Ond dwi'n gobeithio bod yr ymdrech wedi gweithio er mwyn medru cadw un pot, a chael ei agor ganol y gaeaf ac ogleuo, a blasu'r haf eto.

Braidd yn siomedig oedd y fodca rhiwbob wnes i flwyddyn a hanner yn ôl, felly dwi wedi mynd yn ôl at hen ffefryn: llus gwyllt o'r mynydd*.

Mi fues i allan efo 'Nhad a'r Fechan yn hel, gan ddefnyddio'r grib eto, a chael pum pwys mewn awr a hanner. Tua pwys bob un i 'nghyfaill y Rybelwr a finna wneud fodca, a thri i wneud jam.

Roedd y ffrwyth a'r siwgwr yn mynd i mewn i'r fodca, a'r cwbl yn cael ei droi a'i ysgwyd yn ysgafn.
700ml fodca; 400g llus; 350g siwgr.


Bydd angen ei gynhyrfu bob hyn a hyn, a'i guddio mewn cwpwrdd am fis, wedyn hidlo'r gwirod nol i'r botel wreiddiol a gadael iddo aeddfedu mor hir ag y gallwn heb ymdrybaeddu.

Dilyn rysait rhywun arall ydw i efo'r brandi, ac mae hwnnw'n awgrymu trwytho'r ffrwyth yn y gwirod am fis, ac wedyn ychwanegu siwgwr. A bod yn onest, dwi ddim balchach o frandi, ond gawn ni weld sut beth fydd hwn at yr hydref.


Y Pobydd wedi bod yn arbrofi hefyd; wedi cael eirin gwlanog o'r siop ac wedi tynnu'r croen a chwalu pedwar ohonynt er mwyn ei gymysgu efo gwin pefriog i wneud belini blasus iawn.



* Bysa fiw i mi ddeud wrthoch chi yn lle fuo ni'n hel llus, ond doedd o ddim yn bell o gartrefi yr esgob William Morgan, Tŷ Mawr Wybrnant, a'r newyddiadurwr Elis o'r Nant, sy'n rhoi cyfle i mi roi plyg i lyfr newydd yr hen ddyn. Y rhai sy'n ddigwilydd sy'n ddigolled!


Ond cofiwch, ffeindiwch lefydd eich hunain i hel llus!



2 comments:

  1. Vivian Parry Williams17/8/14 16:46

    Diolch am y plyg i gyfrol Elis o'r Nant, Cynrychiolydd y werin annwyl fab, - comisiwn ar y ffor'. Pob dim yn help. (A llyfr gwerth chweil ydio, yn ôl pawb sydd wedi'i ddarllen!

    ReplyDelete
    Replies
    1. -peth lleia fedra'i wneud ar ol eich cyflogi chi ar llai na'r isafswm cyflog i wagio'r cwt efo fi heddiw!

      Delete

Diolch am eich sylwadau