Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

15.8.14

D'yn ni ddim yn mynd i Birmingham

Mae gen i aduniad ysgol ym mis Medi, a dwi'n edrych ymlaen i ddal i fyny efo cyd-ddisgyblion alltud, 40  30* mlynedd ar ol i bawb ddilyn llwybrau a gorwelion gwahanol.

Ond mynd a dod fydd y rhan fwyaf y noson honno: mi fydd yn hyfryd eu gweld yn ol yn y fro, fel gwennoliaid yn y gwanwyn. Ond mynd maen nhw drachefn.

Adar o'r unlliw: y Peiriannydd, y Warden, a'r Dyn X-ray, ar Faen Esgob
Mae'r dryw bach, y robin goch a'r deryn to yma trwy'r flwyddyn. E'lla na weli di nhw bob dydd, na'n rheolaidd bob wythnos, ond galli di ddibynnu arnyn nhw pan ti angen diwrnod i'r brenin. Mae rhai yn byw ymhellach na'u gilydd, ond mae ychydig o ymdrech yn arwain at lwyddiant yn amlach na pheidio.


Rhai felly ydi ffrindiau bore oes; rhai sydd wedi cadw cysylltiad, ac yn parhau i gadw oed mewn tafarn ac ar fynydd, er mwyn hel atgofion a rhoi'r byd yn ei le, bob hyn-a-hyn. Efo criw felly fues i ddydd Sadwrn yn crwydro ardal ddiarth.

Merlod y Carneddau, grug, a Phen-y-gogarth yn gwthio i'r mo^r


Er bod ambell i ditw a bran ar goll o'r haid arferol, roedd yn ddiwrnod hwyliog, yn cerdded dan haul braf, trwy ffriddoedd o rug ac eithin, piws a melyn, o Fwlch Sychnant, uwchben tref Conwy. Heibio Llyn Gwern Engan, a godrau Craigyfedwen; trwy Penffriddnewydd, Maen Esgob, a chylch cerrig Cefn Llechen; heibio murddun Tyddyn Grasod a'i gorlan arbennig; Cefn Maen Amor wedyn, a maen hir Maen Penddu, a hen chwarel lechi Tal-y-fan. Oedi i edmygu waliau cerrig sych y Ffriddlys, ardal o fynydd garw gafodd ei amgau rywbryd gan breswylwyr optimistig Tan-y-graig...  murddun ydi hwnnw hefyd heddiw.

Yna cyrraedd copa Tal-y-fan. Blewyn yn uwch na dwy fil o droedfeddi; 610 metr uwchben y mor glas islaw i'r gogledd, ac felly'n mynnu'r hawl i gael ei alw'n fynydd!

Roedd ein llwybr yn dilyn rhan o Daith Pererin y gogledd sy'n anelu am Enlli. Ond pererindod gwahanol iawn oedd gennym ni dan sylw, gan fynd ar ein pennau am weddill y dydd i dafarn Yr Albion yng Nghonwy. Mi fuon ni'n chwilio am esgus i ymweld a'r dafarn yma ers ei agor ddwy flynedd yn ol, gan bedwar bragdy lleol. Ac roedd yn werth aros amdano.


Syniad oedd yn plesio yn yr Albion: gwerthu tri traean peint am deirpunt, er mwyn cael blasu'r amrywiaeth o gwrw lleol oedd ar gael. Cwrw Clogwyn gan fragdy Conwy oedd fferfryn pawb.

Maen Penddu
Un cwyn oedd gen' i braidd. Os gawsom ni'n swyno gan enwau hardd, hynafol, Cymraeg, yr ardal, roedd Seisnigrwydd y dref yn siom.

Un o gorlannau didoli nodweddiadol y Carneddau, ger Tyddyn Grasod. Pawb yn hel y defaid o'r mynydd, a'u rhannu wedyn i ddwsin o wahanol gelloedd, yn ol eu perchennog.                 Afon Conwy yn y cefndir.

Ond fel arall, diwrnod i'r brenin go iawn. Diolch 'ogia.

Fel mae o'n wneud ar gychwyn pob taith i ni rannu ers yr wythdegau, atgoffodd y Peiriannydd ni trwy ddyfynu'r Tebot Piws nad oedden ni'n mynd i Birmingham, a phawb yn rowlio llygaid a chwerthin, gan ddiolch ein bod yn mynd i le brafiach o lawer.

Erbyn saith roedd yn amser i bawb wasgaru i bedwar cyfeiriad, ac wrth gerdded dros Afon Conwy er mwyn dal y tren ola' adra o Gyffordd Llandudno, trodd fy sylw i at y daith nesa'...


Cyn belled bod y cwmni'n dda, a'r cwrw'n flasus, dim ots lle fyddwn ni.



* diolch i'r peiriannydd am gywiro'r mathemateg a'r cof gwael!

2 comments:

  1. Llyniau hyfryd. Dwi ddim wedi gwneud y taith yna, ond dwi wedi gwneud taith llai o gwmpas Conwy, sydd yn dechrau gyda dringo Mynydd y Dre - a hefyd wedi teithio ymlaen o fanna ar hyd yr arfordir - y llwybr ARALL arfordirol Cymru. A dach chi'n iawn am Gonwy. Mi ges i siom y tro gyntaf es i yn ol - does dim llawer o Gymraeg i glywed ar y stryd - ond mae Llandudno yn debyg hefyd. Mae taith cerdded yn ffordd hyfryd i ddal i fynny gyda ffrindiau.

    Gobeithio wnewch chi fwynhau'r aduniad. I fi, aduniad ysgol, un-ar-ddeg mlynedd yn ol rwan, oedd y hwb i ailddechrau'r Cymraeg.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Ann, mae'n ardal sydd ddiarth i mi, ond yn un dwi'n edrych ymlaen i ddychwelydd iddi.

      Delete

Diolch am eich sylwadau