Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

23.5.14

Colli lluniau

Yn anffodus, mae Blogspot yn colli lluniau* o hen gofnodion ar hyn o bryd. Os oes unrhyw un yn gwybod sut i ddatrys hyn, byswn yn ddiolchgar am gyngor!

Pry' blodyn (pryf hofran) ydi hwn, Chrysotoxum arcuatum, ar ddeilen cyrins duon yn yr ardd gefn.


Mimic gwenynen feirch arbennig o dda, ond yn cael mwy o groeso yn yr ardd am ei fod yn bwyta llyslau (aphids).

Rwan 'ta; lle aeth y lluniau eraill 'na.....?

* Diweddariad, 3ydd Mehefin> Blogger wedi cael bai ar gam. 'Mond yn ty ni oedd y broblem, a blwmin BT oedd y drwg. O'n i wedi ymuno a'u gwasanaeth 'Parental Control' bythefnos yn ol rhag ofn i'r plant faglu mewn i wefannau anaddas, a hwnnw oedd yn rhwystro'r lluniau rhag llwytho!
BT yn amlwg yn meddwl bod lluniau o bryfid a choed afalau a'r Moelwynion yn fygythiad i foesoldeb y teulu!

Mwya'n byd y bydd dyn byw: mwya gwelith; mwya glyw.

2 comments:

  1. Mae'r llun yma yn wych !

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Ann, dwi'n reit falch o hwn, er nad yn gant-y-cant siarp; mae'r tacla'n gyndyn i aros yn llonydd yn ddigon hir i ddal llun golew!

      Delete

Diolch am eich sylwadau