Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.10.13

Ti'n meddwl lici di yma?


Dwi'n ymwybodol nad oes llawer o son am arddio wedi bod ar y blog 'ma'n ddiweddar. Mi fues i'n mwydro am jam a chrwydro, a hel cnau a madarch a ffrwythau gwyllt, ond heb son rhyw lawer am yr ardd na'r rhandir.


Mae'r calan gaeaf yn gyfle i edrych 'nol ar y flwyddyn mae'n siwr tydi, a dwi wedi mynd ati i greu cynlluniau bras o'r ardd gefn a'r rhandir; rhywbeth dwi wedi bod isio'i wneud ers talwm. Mi ro'i gopi o'r rhain yn barhaol ar dudalen arwahan hefyd.

Yn yr ardd gefn, roedd y ffrwythau meddal yn lwyddiant mawr, gan ddechrau efo cnwd ryfeddol o riwbob. Mi gawson ni datws golew a dail salad bron hyd syrffed, ond methiant oedd yr arbrawf efo'r gwely cymysg. Roeddwn wedi cymysgu hadau letys efo moron, panas a betys, gan feddwl y bysa digon o le i'r llysiau besgi wrth i'r letys gael eu hel dros yr haf. Be ddigwyddodd oedd bod y radish a'r letys wedi mynd yn wyllt bost a doedd yna ddim digon o le na golau i ddim byd arall. Mi gawson ni foron, ond m^an oedden nhw braidd. Bychain ydi'r panas hefyd, ac maen nhw dal yn y ddaear, ond dim ond dail betys gawson ni. Dim betys i'w rhostio: dyma brif siom y flwyddyn o bosib.

Mae'r bresych coch a'r sbrowts wedi diodda'n ddiawledig efo lindys eleni, a'r bresych deiliog (kale) wedi eu llarpio gan falwod. Mae'r oca dal yn y ddaear, ond y tyfiant dail yn wanach o dipyn na'r llynedd, felly dwi ddim yn disgwyl gwyrthiau.

Dwi wedi son digon am siom y ffrwythau coed. Un peth dwi heb gyfeirio ato ydi'r llond dwrn o gellyg ges i am y tro cynta'. Mae'r goeden dal mewn twb, ac yn torri ei bol isio'i phlannu allan yn iawn.

YR ARDD GEFN, 2013


3- afal Enlli; ceiriosen morello; mafon.

8- ffrwythau meddal. Hefyd 14CH- llus mawr.

10- ty gwydr; dwy goeden gellyg mewn twbiau tu allan.

13- eirinen Ddinbych.

14A- tatws: charlotte a sarpo miro.

14B- gwely cymysg.

14C- bresych; sbrowts; nionod; oca; persli.

16- hefinwydden












Ar y rhandir, bu'n flwyddyn eitha' da am ffa eto eleni, er gwaetha'r dechrau hwyr. Roedd yn flwyddyn drychinebus am bys ar y llaw arall. Malwod eto. Un bwmpen sy'n werth ei hel a'r lleill heb dyfu digon i fod yn werth eu codi. Pwmpen las yw'r un sydd wedi tyfu -crown prince- er na fyddai'n ennill unrhyw wobr!

Mi ges i ddau flaguryn oddi ar y marchysgall er mawr syndod, ond er bod pawb arall (ar y teledu a'r radio a'r cylchgronnau) yn brolio blwyddyn anhygoel o ran courgettes, ychydig iawn ges i!


 Y RHANDIR, 2013

2- cyrins duon.

3- blodau haul; gellyg daear (artichokes Jeriwsalem)

4- ffa dringo; ffa piws; pwmpen; brocoli piws; courgette.

5- marchysgall; tafod yr ych.

7- ffa melyn; pys; pwmpen.

8- gwsberins.

9- mafon.



Pan o'n i'n gweithio yn yr atomfa* 'stalwm iawn yn ol, roedd rhywun yn gofyn i mi ryw ben bob dydd, neu bob shifft, "ti'n meddwl lici di yma?" -a hynny flynyddoedd ar ol dechrau gweithio yno!
"Bydd o'n neis ar ol ei orffen", oedd yr ateb yn amlach na pheidio.
Dwi wedi byw yn fan hyn am dros ddegawd, a chael dwy flynedd ar y rhandir bellach, a dwi'n eitha' bodlon yma. Ond fydd yr ardd na'r rhandir FYTH wedi gorffen!

*Atgoffwyd fi wedyn bod hyn yn arferiad ym mhwerdy Tanygrisiau hefyd -yn wir, wedi tarddu'n fanno... 
Peth mawr ydi cof gwael!

2 comments:

  1. Anonymous8/11/13 19:57

    Na, fyth! Mae fel ceisio cadw'r platiau di-ri 'na i droi ar ben ffyn, cyfres o gylchoedd yn dechrau ac yn gorffen fel y mynnan nhw. Ond mae'n hwyl.

    ReplyDelete
  2. Cytuno'n llwyr! Ac yn y cyfamser, dwi wedi mwynhau clywed am be sydd wedi llwyddo - a be sydd ddim , eleni. A mae garddio fel gwaith ty - mae rhaid gwneud o drosodd eto - felly mae siawns cael llwyddiant y flwyddyn nesa ar ol methiant

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau