Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.4.13

'ffliwt hyfrydlais' a blwyddyn o'r blog

Mi wnes i son mewn blogiad cynharach fod y gylfinir wedi bod yn canu uwchben Stiniog gyda'r nosau ddiwedd mis Mawrth.

Gylfinir- llun Comin Wicipedia, gan Neil Phillips.

Ar ol son y tro d'wytha am ganu'r ehedydd, dyma un arall o synau amhrisiadwy y gwanwyn. 'Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos'  meddai R. Williams Parry*


Mi fues i'n trio recordio'r swn, ond heb lwyddo i gael unrhywbeth o safon.
Ond mae hwn ar gael ar soundcloud.


Dim ond 7 eiliad mae'r clip yn para (wedyn, mae'n mynd ymlaen i chwarae clips adar eraill), tra mae'r canu yn ailadrodd drosodd a throsodd yn nhywyllwch y nos, wrth i'r adar hedfan tua'r mynydd i fagu.

Mae'r gylfinir yn mudo o'r arfordir i'r mynydd, ond dwi'n edrych ymlaen rwan i glywed yr ymfudwyr 'go iawn' yn cyrraedd: telor y coed, siff-saff, ac yn fwyaf amlwg, y gog.

Tudalen gylfinir ar Wicipedia.

                                                                                                              * 'Y gylfinir'. RWP. Yr haf a cherddi eraill, 1924


Gyda llaw, diolch yn fawr i Cathasturias, am roi mensh caredig i Ar Asgwrn y Graig  yn Golwg wsos yma (rhifyn 4ydd Ebrill).


PENBLWYDD HAPUS?
Flwyddyn i heddiw wnes i ddechrau'r blog yma. Dwi wedi mwynhau y broses yn fawr iawn, ond dwi'n holi fy hun o dro i dro pam fy mod yn dal ati?

Ai math o ddyddiadur i mi fy hun ydi o, ar adeg pan fo'r cof yn llai dibynnol?  Esgus i beidio mynd ati i sgwennu'r nofel honno sy'n honedig ym mhob un ohonom? Rhywbeth i nghadw fi'n gall pan fo pawb arall eisiau gwylio'r teledu? Yr ego yn camarwain fod gennyf rywbeth sy'n werth ei ddweud?  Dwn 'im...

Peidiwch a phoeni; dim chwilio am gysur ydw i!
Un peth sy'n sicr: dwi ddim yn ei wneud o er mwyn cyrraedd miloedd o ddarllenwyr!
Wrth gychwyn, roeddwn yn gwybod mai bach iawn fyddai'r gynulleidfa.

Wedi'r cwbl os ydi S4C wedi penderfynu nad oes galw am raglen arddio dros yr haf eleni**, yna mae'n siwr i chi fod llai o Gymry Cymraeg yn debygol o dreulio amser ar y we yn darllen am ymdrechion garddio rwdlyn ar ochr mynydd!

Tydi'r ffordd mae Blogger yn cyfri' ymweliadau i'r blog ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi, ond dwi ddim yn rhy swil i rannu'r ystadegau efo chi:

Heb gynnwys hwn, dwi wedi rhoi 81 darn ar y blog. Mae Blogger wedi cyfri 6,302 'pageview' hyd yma. Cyfartaledd o 77 ymweliad i bob darn. Gan fod rhai yn dychwelyd i ambell ddarn fwy nag unwaith i ddilyn sylwadau, efallai bod y nifer o wahanol bobl sy'n ymweld yn fach iawn...? A'u hanner nhw yn aelodau o'r teulu estynedig!

Ambell ddiwrnod mae 70 ymweliad; ambell ddiwrnod, cyn lleied a 2. Heddiw hyd at naw o'r gloch: 8.
Y mis salaf: Awst, 297 ymweliad. Mis gorau: Tachwedd, 914.
 
Iawn, tydyn nhw ddim yn costio llawer o amser i mi eu creu, ond mae'n cymaint brafiach meddwl ei bod yn werth yr ymdrech!

Mae derbyn sylwadau yn brofiad gwerthfawr iawn.

Dwi'n meddwl mae'r prif reswm wnes i ddechrau blogio oedd fy mod i'n gweld cannoedd o blogs yn Saesneg am arddio a bywyd gwyllt, ac ychydig iawn iawn yn Gymraeg.

Tybed ydi sgwennu am arddio yn esgus i beidio codi oddi ar fy nhin i fynd allan i arddio? Fel rhywun sy'n prynu a darllen llyfrau Jamie Oliver a Nigella Lawson, ond sydd byth yn coginio...

Mae un peth yn siwr: mae angen mwy o blogs Cymraeg am bob pwnc dan haul. Dewch o'na bawb, ewch ati!



                                                                        **Yn ol cyflwynydd Byw yn yr Ardd, Bethan Gwanas, ar ei  Blog Garddio.






3 comments:

  1. Dw i'n mwynhau'r blog, er ddim yn gadael sylw'n aml.

    Mae'n siwr mod i wedi son yn borod, ond dyma gasgliad o flogiau Cymraeg am arddio.
    http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_am_arddio

    Diolch am gadw'r ffydd - bydd pobl un gwerthfawrogi amrywiaeth (ac ansawdd) blogiau Cymraeg rhyw ddydd!

    ReplyDelete
  2. Anonymous10/4/13 12:50

    Wel, finne'n joio'r blog 'ma ta beth. Pen-blwydd Hapus!

    ReplyDelete
  3. Diolch am eich geiriau caredig. Dwi'n edrych ymlaen am flwyddyn arall o fwydro!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau