Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

21.4.13

Crwydro- Sioe Arddio Caerdydd



Cyn dechrau teimlo'r felan Nos Sul mi ges i benwythnos hir hwyliog iawn.

Mi gymris ddiwrnod o wyliau dydd Gwener i deithio i'r brifddinas i wneud cant-a-mil o bethau (wel, mae'n gwneud synnwyr i wneud cymaint a phosib yr un pryd er mwyn osgoi teithio'n rhy aml ar yr erchyll A470 tydi!).

Ymysg gorchwylion pleserus fel mynd efo Mam a Nhad i gyfarfod fy mrawd bach a'i gariad; a chyfarfod ffrind coleg i hel clecs a rhoi'r byd yn ei le dros beint, mi ges i gyfle am y tro cynta erioed i fynd i sioe arddio. Mae'r Pobydd ac eraill yn tynnu coes 'mod i wedi cyrraedd fy nghanol oed! Digon teg am wn i. Mi wnes i fwynhau'n iawn, waeth be ddwedan nhw!

Yr RHS ydi'r trefnwyr, a Sioe Caerdydd ydi'r cyntaf ar eu calendr blynyddol nhw, eleni yn nawfed tro iddyn nhw fentro'r ochr iawn i Glawdd Offa. Roedd ambell beth yn siomedig, ac oherwydd y pellter, mae'n debyg na fyddai'n mynd eto, ond dwi'n hynod falch i mi fynd y tro yma.

Be oedd yn plesio?
Gardd Wade & Nichol. Popeth wedi ei ailgylchu. Palets pren wedi eu sandio a'u paentio i greu pafiliwn, decin, cadeiriau a wal drawiadol. Medal aur haeddianol.















Tiwlip bychan o fynyddoedd Asia. Tulipa turkestanica. Blodyn bach siap seren, heb ei ddifetha gan fridio fel tiwlips eraill. Mi gafodd y feithrinfa oedd yn ei arddangos fedal arian eurog, silver-gilt.


Planhigion Alpaidd. Mae gen' i wendid am blanhigion mynydd ac roedd nifer o arddangoswyr yno. Wnes i ddim prynu planhigion, ond mi ddois i adra efo rhestr hir!















Arddangosfeydd o lysiau anarferol, a dewis da iawn o hadau prin.


Rhandir 3D
















Hefyd: cystadleuaeth i ysgolion lleol i greu gardd mewn berfa; stondin gyri oedd dipyn rhatach na'r Steddfod; ac yn bwysiach na phob peth arall efallai -yr haul a'r awyr las.

Be oedd yn siomi ?
Cyn lleied o gystadlu oedd efo gerddi. Dim ond deg o erddi oedd wedi eu hysbysebu cyn y sioe, sy'n ddigon gwael, ond mewn gwirionedd, dim ond 5 gardd gyflawn oedd yno. Dau yn cael medal aur, yn cynnwys Wade/Nichol uchod, un arian ac un efydd. Dim teilyngdod ymysg y lleill!

Dyma'r ardd aur arall, ac i hon ddyfarnwyd y wobr gardd orau'r sioe, sef 'Gardd Seiri Coed Crefftus' i roi'r cyfieithiad trwsgl a geir yn y rhaglen i 'Artful Bodger's Garden', gan Ysgol Heronsbridge (Penybont-ar-ogwr) ac Anthea Guthrie.


O'n i'n hoffi elfennau ohoni, ond rargian, prin gellid ei galw'n ardd, a doedd yna fawr ddim 'cynllun' iddi.

Mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn ei chael hi gen' i eto hefyd. 
Doedden nhw heb gael amser i baratoi cynllun ar gyfer sioe Caerdydd meddai'r swyddog ar eu stondin, ond os gewch chi afael ar rifyn cyfredol eu cylchgrawn, y pennawd ar y clawr ac un o'r erthyglau tu fewn ydi 'Chelsea, dyma ni'n dod!' 
Maen nhw'n gweld gwerth mewn buddsoddi arian nawdd ac amser ac ymdrech i arddangos yn Llundain, ond ddim Caerdydd. Twt-lol.

Gwydr hanner llawn..
O bwyso a mesur, roedd mwy o bethau yno i'w canmol nag oedd i'w beirniadu, ac mi ges i ddiwrnod gwerth chweil. 
Wrth adael y maes, mi es am dro ym Mharc Bute a rhyfeddu eto mor wych ydi'r coed sydd yno, a meddwl mor lwcus ydi pobl Caerdydd i gael ardal werdd mor arbennig ynghanol y ddinas.
Croesi'r Taf wedyn ac i'r Mochyn Du ar fy mhen. Fedrai'm cwyno!  
  
Cenin Pedr Cwmni Scamp gafodd wobr Arddangosfa Orau'r Sioe. Dim ond £10 YR UN ydi bylbs yr un oren yn y canol!


Mwy o hanes y penwythnos tro nesa efallai.
   

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau