Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

8.3.13

Grifft

Grifft llyffant yn y pwll gwyllt drws nesa' i'r rhandir, pnawn 'ma.


A dyma glip rhyfeddol gan Gareth T Jones, oddi ar YouTube, yn dangos llyffantod yn rhuthro ar draws eu gilydd i barhau'r hil, a hynny gwta filltir lawr y dyffryn ar ffordd Stwlan, ychydig ddyddiau'n ol.


Mae'r swn yn wych!
Dyma edrych ymlaen i weld llu o lyffaint ar y rhandiroedd dros yr haf, yn bwyta slygs.




6 comments:

  1. Am lluniau da! Gobeithio bydd y grifft yn goroesi yn y tywydd oer yma a bydd ddigon y lyffantod yn y dyfodol

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Ann. Wythnos yn ol roeddwn ar gopa'r Rhinog Fawr, ac ar y ffordd i lawr gwelais lawer o byllau wedi rhewi'n gorn efo grifft ynddynt..

      Delete
    2. Anonymous19/3/13 22:53

      fab photos ;0)

      Delete
  2. Am lluniau gret! Sut byddan nhw'n gwneud yn yr eira, tybed? Mae gynnon ni lawr o eira yma heddiw.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Elizabeth. Mae trwch o eira wedi cyrraedd yma dros nos hefyd.
      Y plant wrth eu bodd, ond ia, mi fydd yn anodd ar lawer o greaduriaid eraill dwi'n siwr..
      Post difyr iawn gennyt am Yr Wyddfa Elizabeth; hoff iawn o'r linell olaf!

      Delete

Diolch am eich sylwadau