Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

2.12.12

Torri crib

Wedi bod yn clirio rhywfaint yn yr ardd gefn heddiw, ond o, mam bach, mae gen' i fil o bethau i'w gwneud eto!


Mae digon o fywyd ar ôl yn y llaethlys yma eto, ond roedd o wedi'i gladdu braidd, dan drwch o hen ddail bler blodau eraill, a'u blodau rhyfeddol di-betal yn benisel a thrist yr olwg.

Mae'n blanhigyn deniadol i ymestyn y tymor, ac mae o'n cael chydig o oleuni eto rwan ar ôl clirio o'i gwmpas. Dail crib y ceiliog oedd y prif droseddwr, ond mae'r rheiny bellach wedi eu torri ac ar y das gompost.

Un o deulu'r Euphorbia ydi o  -dim syniad pa un. Ar ôl ei blannu mi rois i'r label yn 'saff' mewn hen dun bisgedi efo dwsinau o rai eraill, y rhan fwya ohonyn nhw wedi hen farw, a'r casgliad labeli'n adrodd fy hanes fel garddwr drama, chwit-chwatErbyn hyn, mae'r labeli a'r tun dan dunnell o goed a sgwtyrs a beics a thegannau a geriach yn y cwt, heb obaith o'u cyrraedd tan y gwanwyn...

Son am dorri crib; yn ystod fy 'wythnos gwas newydd' yn y byd cadwraeth, mi oeddwn yn llawn brwdfrydedd ac eisiau trio plesio'r bos a 'nghydweithwyr newydd, fel mae rhywun 'de. Mae'n draddodiad mewn sawl lle gwaith mae'n siwr tydi, fod yr hen lawiau yn chwarae triciau ar aelodau newydd y tîm. Wel...

Mae yna bolion ar gefn traeth Dyffryn Ardudwy sy'n mesur erydiad y twyni tywod, ac mi fu'n rhaid i mi gerdded trwy ganol degau o noethlymunwyr efo tâp mesur yn ystod fy wythnos cynta' yn haf 1996, a Gareth yn chwerthin o bell yn y land-rofyr! Ond dim dyna pam ddechreuis i son am driciau.

Ar ddiwrnod arall, gofynodd Jonathan i mi os oeddwn yn hoffi pupur?   Ydw siwr iawn.
"Tria hwn 'ta" -medda fo gan dorri coesyn llaethlys gwyllt, a rhoi diferyn o'r llefrith gwyn ar fy nhafod....            

 "*@#%*!!"
(llun wedi'i sbachu o'r we)

Peidiwch a thrio hyn adra gyfeillion! Llaeth y cythraul ydi enw arall arno, ond doeddwn i ddim yn gwbod hynny ar y pryd nag oeddwn... roedd ngheg i'n llosgi trwy'r dydd. Ew, stwff giami!

Mwya'n byd y bydd dyn byw, mwy gwelith, mwya glyw.


Ta waeth, 'roedd yna liwiau deniadol ar ddail crib y ceiliog; coch a gwyrddlas digon del, felly mi dynnais lun cyn eu rhoi ar y compost.



Wedi cael darn o'r Crocosmia mawr yma o ardd rhywun arall ydw i, felly dwi ddim yn gwybod pa un ydi hwn chwaith. Nid y Montbretia oren sy'n boen ydi o, ond un o'r math 'Lucifer' efo crib coch o flodau sy'n ymestyn ar i fyny'n dalog.

Dyma lun o ddechrau Medi..

Mae rhywfaint o Montbretia yma hefyd; hwnnw, troed y golomen (Aquilegia) ac un hen rosyn oedd yma pan brynson ni'r tŷ. Heddiw, fel pob wythnos o'r flwyddyn, mi fues i'n codi mân-blanhigion felltith y montbretia o'r llwybr llechi yng ngwaelod yr ardd. Pla!

Wedi cadw'r trampolîn am y gaeaf; a'r bwrdd a'r cadeiriau; a'r peli aballu; rhoi potiau efo planhigion meddal yn y tŷ gwydr. Dim ond dwy fil chwe chant o bethau eraill i'w gwneud!
Gwell o lawer nag eistedd ar fy nhîn yn gwylio rygbi gwael...


Mae nghrib dros dro i wedi mynd, diolch i'r drefn. Ro'n i'n falch i fedru cyfrannu at ymgyrch Tashwedd/Movember i godi ymwybyddiaeth at gansar dynion, a hel chydig o gelc at yr achos, ond argian, dwi'n falch fod y blewiach wedi mynd! Roedd o fel cyw mochyn daear dan fy nhrwyn ar un adeg. Pawb at y peth, ond dim i mi! Diolch i'r rhai gyfrannodd.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau