Mae'n anodd iawn tynnu llun glaw! Y gorau fedrwn i wneud oedd tynnu llun y diferion ar ffenest y gegin aballu. Mi ges i socsan yn y broses; dwn 'im os oedd o werth yr ymdrech. Ond roedd yn well nag eistedd yn y ty efo Sbwnj-Bob-Pants-Sgwar ar y bocs...
Er gwaetha'r tynnu coes am law Stiniog, rydym yn lwcus iawn yma, ar asgwrn y graig, gan bod ein dwr ni'n rhuthro lawr y dyffryn i Faentwrog. Mae 'nghalon i'n gwaedu dros ein cyd-Gymry sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi dros y Dolig oherwydd llifogydd.
Wrth feddwl am law, mae llwyth o ganeuon arbennig yn dod i'r cof: yr unigryw Anweledig er enghraifft, efo 'Dawns y Glaw'. "Wai-o, wai-o, maen nhw'n deud bod hi'n bwrw glaw ym Mlaenau Ffestiniog. Ond wir i chi mae hi'n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog!" Gan y gwirion ceir y gwir.
Mae can gyntaf albym newydd Cowbois Rhos Botwnnog, 'Glaw', yn hyfryd, hyfryd.
Mi fuodd y Pobydd a fi, a'n ffrindiau, y Rybelwr Bach, ac S, i weld y Cowbois ddechrau Tachwedd mewn cyngerdd efo Georgia Ruth a Gareth Bonello. Noson arbennig iawn.
Llun difrifol o sal -ac anghyfreithlon mae'n siwr- o'r Gentle Good (Bonello a'i grwp) yn y Galeri, Cnarfon. |
Meinir Gwilym ac Endaf Emlyn yn ddau arall efo caneuon da iawn o'r enw 'Glaw'.
Hefyd, mae Mim Twn Llai (Glaw go iawn), Alun Tan Lan (Glaw), Geraint Lovgreen (Stella ar y glaw), Hergest (Gosteg yn y glaw), Brigyn (Gyrru drwy y glaw), yn dod i'r cof. Mae dwsinau o rai eraill dwi'n siwr. Her: gyrrwch restr! Ydi 'Dafydd Iwan yn y glaw' gan Datblygu yn cyfri?
Oes gennym ni obsesiwn efo glaw? Mae ganddo le pwysig iawn yn ein diwylliant ni yn amlwg. Be' fysan ni hebddo fo dwad? Ond waeth inni heb a mwydro na waeth. Mi ddaw fel y mynn. (1)
Beth bynnag am law, does 'na ddim golwg am eira y Dolig hwn. Gallwn ni ond gobeithio y cawn ni ychydig ddyddiau sych o leia, i gael mynd i grwydro cyn gorfod meddwl am fynd 'nol i fod yn was cyflog eto.
Nadolig Llawen iawn i chi, a gan fod cenedl coll y Maya wedi gwneud camgymeriad am ddiwedd y byd, gallwn edrych ymlaen am flwyddyn newydd lewyrchus a chynhyrchiol.
Celyn, awyr las a Mynydd Dol-ffanog, Tal-y-llyn, 18fed Rhagfyr 2012 |
Dyfynnu: 1. 'Glaw, mi ddaw fel y mynn'. Gwyn Thomas (eto)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau