Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.3.15

Blew cae

Dant y llew cynta'r flwyddyn dynnodd fy sylw, a gwneud i mi chwerthin ar gyflwr truenus y lawnt acw. Nid fod y peth yn newyddion i ni, ond argian ulw, mae'r diffyg glaswellt yn destun cywilydd.

Neu mi fysa fo, taswn i'n malio botwm corn am drwch y gwair yno!

Chwyn a mwsog, mall a'i medd... y 'lawnt' honedig yn foel iawn o ran gweiriau

Pawb at y peth y bo, ond 'sgen i ddim diddordeb treulio oriau yn torri, rowlio a thendio i gael ardal streipiog i'w hedmygu. Yma dros dro mae'r lawnt -fel y trampolîn mewn rhan arall o'r ardd gefn- er mwyn cadw'r plant yn ddiddan. Lle gwastad i daro pêl tenis ar bolyn, a gosod pabell neu'r pwll padlo pan ddaw'r haul.

Pan fydd y Fechan yn ei harddegau ac yn rhy cŵl i gicio pêl a bownsio mwyach, mae'r lawnt a'r trampolîn yn mynd.

Wedyn yr oedolion fydd pia'r ardd i gyd! Mae'r ddwy ardal yma wedi llenwi ambell funud o synfyfyrio a breuddwydio'n barod: coed ffrwythau, a gwely blodau cymysg efallai.

Fydd dim lle ar gyfer blew cae, glaswellt, gwelltglas, na gwair!

Mae dant y llew yn flodyn hardd iawn. Wrthi'n cau oedd hwn ar ôl i'r haul suddo tu ôl i'r Moelwynion.

15.3.15

Rhiwbob 2

Wedi codi 'chydig o'r coesau cochion fu dan orchudd. Mae'n nhw'n edrych yn dda, ac ar eu ffordd i fod yn stiw syml i'w fwyta efo iogwrt.


Bu'n rhaid crwydro eto. 'Nôl bob cam i Aberfal (Falmouth), Cernyw. Yr Arlunydd wedi cael gwahoddiad am gyfweliad yn y brifysgol yno.

Fel yn yr hydref, mi es am dro: y tro hwn i 'erddi coll' Heligan. Ac fel Prosiect Eden bryd hynny, roedd hi'r adeg anghywir o'r flwyddyn eto, felly dim ond dwyawr a hanner fues i'n crwydro, cyn inni gychwyn ar y daith epig o saith awr 'nôl adra.


Un peth gododd fy nghalon, oedd bod gwell siap ar ein rhiwbob ni yn Stiniog, na'r rhiwbob yng ngardd furiog, wych Heligan, lle oedd pob coesyn yn denau ddiawchedig. Er, mi ddois i o'no efo syniad da, sef codi tail cynnes yn dwpath o amgylch y potiau rhiwbob...

Heligan- yn werth ymweliad yn y gwanwyn neu'r haf dwi'n siwr



26.2.15

Chwyn da!

Mae mwy o groeso i ambell chwynnyn. Un o'r planhigion cyntaf i dyfu ar bridd noeth dechrau'r flwyddyn ydi berwr chwerw.

Aelod bach o deulu mawr y bresych. Ac aelod blasus hefyd.


Salad gwyllt cynta'r flwyddyn.



21.2.15

Rhiwbob 1

Coesau cochion y rhiwbob cynta' yn tyfu mewn tywyllwch ar hyn o bryd.


Mae nhw'n hwyrach na'r llynedd; roeddwn wedi codi'r pedwar coesyn cynta' yr adeg yma llynedd. Ta waeth, mae yna hen edrych ymlaen acw..




16.2.15

Mynydd yr Olewydd

Gweithred o ffydd, gobaith, a chariad gan y Pobydd naw mlynedd yn ôl oedd prynu coeden olewydd ifanc, a llusgo'r gr'aduras o'r ganolfan arddio ar arfordir mwyn Conwy, bob cam yma i ochr y mynydd, fel anrheg penblwydd priodas i mi.

Thyfodd hi fawr ddim o ran taldra yn y blynyddoedd ers hynny (y goeden 'lly, dim y Pobydd), ond mae golwg digon iach arni hi, ac mae hi'n cael y lle gorau yn yr ardd acw. Caiff fod yn llygad yr haul ac yn dynn wrth wal y tŷ, rhwng Mai a Hydref; wedyn yn y tŷ gwydr trwy'r gaeaf, efo carthen ysgafn pan mae'n rhewi tu allan.

Doedden ni ddim yn disgwyl i'r goeden wneud fawr mwy nag edrych yn dda a thyfu'n hen efo ni a deud y gwir, ond daeth ffrwythau bach arni ddiwedd haf y llynedd. Disgwyl i'r rheiny ddisgyn ymhell cyn aeddfedu oedden ni.


Ond mae hanner dwsin wedi duo yn y tŷ gwydr dros y gaeaf!

Iawn, dwi ddim yn mynd i fedru cael hanner salad efo nhw, ond pwy ddu'dodd bod Stiniog ddim yn lle braf?!  Bananas amdani eleni....