Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

21.2.25

Tyrchu

Mae twmpathau twrch daear yn amlwg iawn ar hyn o bryd. Mewn caeau; ar ffriddoedd; ac ymylon ffordd. Os oes unrhyw greadur yng Nghymru y mae pawb yn gwybod amdano, ac yn gyfarwydd efo’i olion, ond ychydig iawn wedi ei weld, dyma fo. Mamal dirgel sy’n byw dan ddaear, wedi addasu i fod mewn tywyllwch parhaol, bron. 

Dyma ran o’r hyn mae ‘Llyfr Natur Iolo’ (Iolo Williams a Bethan Wyn Jones. Carreg Gwalch 2007) yn ddweud amdano: “Cyffredin iawn yng Nghymru a Lloegr, ond absennol o Iwerddon a llawer o ynysoedd yr Alban. Mae’n gwneud gwaith pwysig trwy awyru’r pridd ond nid oes croeso iddo mewn gerddi.” Er bod rhywun yn clywed garddwyr yn brolio weithiau eu bod yn cario’r pridd adra i wella ansawdd y ddaear yn eu gerddi.

Amhoblogaidd ydyn nhw efo’r ffermwyr hefyd ar y cyfan, yn bennaf oherwydd yr ofn bod eu tocia pridd yn llygru cynhaeaf gwair neu silwair, ac yn bridd noeth i ysgall hadu iddo. Difyr bod ymchwil yn dangos eu bod yn fwy cyffredin mewn glaswelltir sydd wedi ei wrteithio a’i ‘wella’ yn amaethyddol, nac ydyn nhw mewn dolydd blodeuog hen ffasiwn, a hynny am fod y pridd yn gyfoethocach ac felly’n cynnal mwy o fwyd y twrch, sef pryfaid genwair. Rydw i’n gweld mwy o’u hôl rwan wrth fy ngwaith ar ambell warchodfa lle mae merlod wedi eu cyflwyno i bori, ac mae’n ymddangos fod tyrchod yn brysurach lle mae tail y merlod fwyaf amlwg. Pridd deniadol i bryfaid genwair yno mae’n debyg.

Gwahadden ydi’r enw safonol (mole, Talpa europaea) a gwadd yn enw arall, ond heb os twrch daear sydd fwyaf cyffredin yn fy milltir sgwâr i. Gweler y dudalen facebook ardderchog Cymuned Llên Natur am drafodaethau difyr ar arferion y creadur, yn ogystal ac am ei enwau amrywiol, ond hefyd enwau lleol am y twmpathau: priddwal a phriddwadd, twmpath neu docyn, er enghraifft).

Er yn llai cyffredin yn yr ucheldir, mae’r naturiaethwr Bill Condry -yn ei glasur o lyfr ‘The Natural History of Wales’ (Bloomsbury, 1981)- yn cyfeirio at gofnodion o dyrchod daear ddim yn bell o gopa Aran Fawddwy, ar uchder o 870 metr, a’u bod yn medru teithio cryn bellter ar wyneb y tir i gyrraedd ardal newydd. Credaf mae llethrau glaswelltog Cwm Cau ar Gadair Idris ydi’r uchaf i mi eu gweld.
Gall y twrch hel dwsinau o bryfaid genwair (mwydyn/llyngyr daear, earthworm), a’u parlysu efo poer gwenwynig, er mwyn eu cadw’n fyw fel storfa fwyd. Mi ges innau frathiad pan oeddwn yn blentyn.  

Codi twrch o’r llawr ar fy ffordd i’r ysgol wnes i, gan feddwl gwneud cymwynas o’i symud o’r palmant lle gwelais i o, i lecyn mwy addas. Ond ches i ddim diolch gan y cythraul bach; dim ond tyllau dannedd bychain a phoenus yn y croen meddal rhwng fy mawd a’r bys blaen! 

Rheswm arall nad oedd gen i fawr o amynedd efo tyrchod am gyfnod pan oeddwn yn iau, oedd gorfod aros am fy nhad pan oeddem ni’n crwydro llwybrau yn lleol a thu hwnt: roedd o’n mynnu chwilota (hyd syrffed i mi) yn y tocia pridd am olion archeolegol! Fel chwilio am y nodwydd ystrydebol mewn tas wair...  

Ond dyna’n union ydw i’n wneud heddiw, gan weld gwerth a diddordeb mawr mewn hanes lleol ac archeoleg! Cofiaf ei gyffro wrth son am rywun yn canfod blaen saeth mewn twmpath twrch, ddim yn bell o’n bro ni, ac yn wir, gwelais mewn cylchgrawn neu stori bapur newydd flynyddoedd wedyn, am English Heritage, y corff sy’n gofalu am safleoedd hanesyddol dros y ffin, yn defnyddio criwiau mawr o wirfoddolwyr ar safle Rufeinig, i chwilio a chwalu trwy bridd tyrchod am dystiolaeth, heb orfod cloddio yno. Tyrchu o fath gwahanol! Canfuwyd crochenwaith a mwclis, hoelion a gwydr, ac arteffactau eraill.

O chwilio ar y we, mae’n hawdd canfod engreifftiau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill yn gwneud rhywbeth tebyg; ac mae ysgolion mewn ambell ardal wedi cymryd y cyfle i chwilio yn y dull yma, fel ffordd syml a rhad o drafod ecoleg a hanes yr un pryd. 

Oni fyddai’n rhoi gwefr rhyfeddol i gael blaen saeth o oes y cerrig, neu hen geiniog, dim ond o roi cic sydyn i dwmpath o bridd? Daliwn i gredu!

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 20 Chwefror 2025 (dan y bennawd 'Byw dan y ddaear')


30.1.25

Gofyn Tamaid Heb Un Geiniog

Mae gen’ i ffrind newydd. 

Dim ond am bum munud oeddwn wedi bod yn cloddio pan ddaeth robin goch i lan y twll, a dal pryf genwair o dan fy nhrwyn yn gwbl ddigywilydd! Mae’n rhaid fod ganddyn nhw synnwyr arbennig am bridd noeth, ac yn gwybod yn iawn fod cyfle am damaid o fwyd.

Llun gan Francis C. Franklin / CC-BY-SA-3.0

Naw mlynedd ar ôl torri ‘nghalon efo’r amodau ar y safle rhandiroedd lleol a rhoi’r ffidil yn y to; mae rhywbeth wedi drod drosta’i mae’n rhaid, oherwydd rydw i wedi cymryd plot yno eto. Ac o, mam bach, mae’r lle yn ddigalon o wlyb! 

Yno i agor ffos oeddwn i, er mwyn trïo sychu rhywfaint ar y ddaear, ac mi ges i gwmpeini’r hen robin annwyl drwy’r pnawn. Roedd yn amlwg wedi hen gynefino efo cwmpeini pobl ar safle’r rhandiroedd, ac yn hollol ddi-ofn wrth sboncio o gwmpas fy nhraed wrth imi dyllu, ac i mewn ac allan o’r ffos gul yn chwilio am damaid. Mae’r berthynas rhwng y robin goch a phobol yn hen iawn; wedi dysgu bod pobl sy’n gweithio’r tir yn werth eu dilyn er mwyn cael bwyd. Credir eu bod wedi dysgu dilyn moch gwyllt ac anifeiliaid eraill cyn hynny, er mwyn chwilota yn y pridd maen nhwythau wedi’i droi. 

Os oes unrhyw aderyn sy’n adnabyddus i bawb, y robin goch ydi hwnnw. Yn ôl beibl adarwyr Cymru, ‘The Birds of Wales’ (Pritchard et al, 2021), y robin ydi’r ail aderyn mwyaf cyffredin sydd gennym ni, ar ôl y dryw bach. Yr unig lefydd nad ydyn nhw wedi eu cofnodi ydi uchel-fannau’r mynyddoedd; fel arall maen nhw i’w gweld ymhob twll a chornel o’n gwlad. Efallai fod nifer ohonoch wedi eu rhestru dros y penwythnos yn y ‘Big Garden Birdwatch’ blynyddol.

Mae’r robin wedi ennyn edmygedd ac wedi ennill lle go arbennig yng nghalonnau pobol: mae’n un o eiconau amlycaf y nadolig; yn destun cerddi a chaneuon; yn darogan eira, ac yn enw timau pêl-droed, a chwrw hefyd. Arwydd o lwc dda i rai diwylliannau, tra bod eraill yn ei weld fel rhybudd o anlwc i ddod. Mae’r llên gwerin yn helaeth a chyfoethog iawn!

Ar wibdaith o Batagonia yn Hydref 2018, tra’n dringo llethrau Bryn y Groes yn Esquel, mi ges fy syfrdannu o wylio a gwrando ar aderyn yn bloeddio canu o ben llwyn. Loica oedd enw cyffredin yr aderyn hwnnw yno, ond roedd y Cymry wedi ei alw’n robin goch, o hiraeth am y robin annwyl yn yr hen wlad efallai. Gall holltwr blew ddadlau mae oren ydi lliw brest y robin yng Nghymru mewn gwirionedd, ond roedd bol a gwddw robin goch y Wladfa yn goch go iawn. Fel coch y swyddfa bost! 

Ac os oes croeso i gân y robin Cymreig fel un o’r ychydig adar sy’n canu yma yn y gaeaf, mae cân y loica yn gwbl hyfryd a llawer mwy cerddorol a llon. Ehedydd maes cynffonhir ydi’r enw safonol a roddwyd iddo gan banel enwi adar y byd, ar ôl y Saesneg mae’n debyg (long-tailed meadowlark, Sturnella loyca) ond mae’r enw robin goch yn fwy agos atoch a boddhaol fel enw lleol tydi.

Yn ôl ar y rhandir, tydw i ddim yn edliw i’r robin gael ambell i fwydyn, dim ond iddyn nhw beidio a bwyta pob un; mae’r pridd yno angen pob cymorth gan bryfaid genwair! Roeddwn yn swnian fod y ddaear yn wlyb ar y plot cyntaf yno ddegawd yn ôl, yn gwamalu mae dim ond reis a watercress oedd yn bosib tyfu yno. Ond pa ryfedd? Pan oeddwn yn blentyn, y Gors Fach oedd enw’r safle: lle da i ddal llyffant a genau goed (neu goeg, sef madfall ddŵr) nes i ryw awdurdod datblygu feddwl yn eu doethineb ym 1975, y dylid llenwi’r gors efo llechi er mwyn ‘tirlunio’ a chreu ardaloedd i ddenu diwydiant. Pff! Ddaeth dim ffatrïoedd, ond collwyd cyfres o gorsydd.

Heddiw mae safle’r rhandiroedd fel concrit llawn llechi ar gyfnod sych, ond fel cors mewn tywydd gwlyb. Dyma obeithio y bydd y robin a finna’n medru mwynhau darn o dir fydd yn llawn llysiau ryw ddydd, ond hefyd yn llawn blodau i ddenu peillwyr, a phwll i ddenu amffibiaid yn ôl hefyd.
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 30 Ionawr 2025 (dan y bennawd 'Eicon llên gwerin')

 

Gweddi Wladgarol. Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. 21 Hydref 2018 

 

9.1.25

Crwydro'r Foryd

Waeth imi heb a thwyllo fy hun ‘mod i’n digon trefnus i gadw addunedau ar ddechrau blwyddyn newydd; dwi’n fodlon efo arferiad y teulu i fynd am dro ar Ddydd Calan fel ymrwymiad pwysig, gan anelu fel rheol am y môr. 

Digalon ydi nodi nad oes neb yn galw am galennig acw ers blynyddoedd, ac rwan fod ein plant ninnau wedi hen adael plentyndod, tydan ni ddim yn hel tai yn y bore ers tro byd ‘chwaith. Ta waeth am hynny, gwlyb a hynod ddiflas oedd tywydd y cyntaf o Ionawr eleni a doedd hi ddim yn anodd i’m perswadio fi i ymlacio efo panad a llyfr wrth y tân, yn hytrach na chrwydro!

Gwych a chyffrous, felly, oedd codi ar yr 2il i fore barugog ac awyr las. Taenu map ar fwrdd y gegin am gip sydyn, ac anelu at Landwrog gan feddwl mynd am draeth Dinas Dinlle.  Y tro hwn, yn hytrach na mynd yn syth am y traeth, dewis cychwyn wrth fynedfa stiwdio Sain a dilyn Llwybr Arfordir Cymru tuag at y Foryd. 

Gallwch fwynhau’r Foryd o ffenest y car ar hyd ochr Llanfaglan wrth gwrs, ond rhaid mynd ar droed i’r lan orllewinol. Mae rhan gyntaf fy llwybr rhwng dau wrych, y glaswellt ar un ochr yn y cysgod ac yn farrug drosto, a chroen tenau o rew ar y pyllau yn adwy’r caeau hefyd. Ymhen ychydig, dod allan i dirlun agored, goleuach ar lan Afon Carrog, ac oedi ar y bompren i edmygu’r olygfa i bob cyfeiriad.

Edrych i gyfeiriad Yr Eifl o bompren Afon Carrog. Llun Beca Williams

Mae’n benllanw ac mae’r glastraeth a’i ffosydd a chornentydd gwythiennog, a’r mwd a’r tywod, i gyd o’r golwg dan ddŵr llonydd gloyw. Ganllath i ffwrdd mae haid o adar; pibyddion coesgoch yn bennaf o be wela’ i, a gylfinir neu ddau yn eu mysg, y cwbl yn hela yn y ddaear meddal. Cyn i mi weld yn fanwl, na mentro’n nes atynt, mae dau gerddwr wedi ymddangos ar y clawdd llanw o lwybr y maes cabannau gwyliau, a gan eu bod i’w gweld mor amlwg ar y gorwel, maen nhw’n tarfu’n syth ar yr adar, a’u gyrru i godi’n gwmwl o adennydd a hedfan am eu bywydau i’r lan bellaf dan chwibanu’n gynhyrfus wrth fynd.

Troi tua’r gorllewin wrth y maes awyr mae Llwybr yr Arfordir, ond gwell gen’ i ddilyn y clawdd llanw ymhellach i’r gogledd a chadw’r Foryd ar y llaw dde am ychydig yn hirach. Dod i ben yn ddisymwth mae’r llwybr cyhoeddus hwnnw a feiddiwn i ddim am eiliad awgrymu bod neb yn neidio’r giât a cherdded ymlaen i gyfeiriad Caer Belan, ond mae’n amlwg fod nifer yn gwneud hynny er gwaethaf arwyddion ac anfodlonrwydd ystâd Glynllifon!

Yr hyn sy’n tynnu fy sylw rhwng y warin a’r twyni tywod ym mhen gogleddol y penrhyn, ydi’r cornchwiglod sy’n hedfan yn ddiog a glanio bob-yn-ail, fel rhai sy’n dysgu hedfan awyrennau yn y maes awyr gerllaw. Dyma adar sydd wedi dioddef gostyngiad dychrynllyd yn ail hanner y ganrif ddiwethaf, ac mae’n braf cael eu gwylio am gyfnod: haws o lawer eu gweld yn y gaeaf nac yn y tymor nythu erbyn hyn yn anffodus.

Wrth gerdded i’r gwynt yn ôl tua’r de ar hyd draeth garregog hir Dinas Dinlle, mae’r awyr yn troi’n ddu dan gymylau trymion a’r Eifl yn y pellter – a oedd chwarter awr ynghynt yn amlinell eglur a’r haul tu ôl iddo, yn silhouette o graig dan awyr las- bellach dan gawod drom o eira. 

Efo mwy ar ei ffordd, roedd yn amser ei ‘nelu hi’n ôl tuag adra at y tân eto, ar ôl ychydig oriau o awyr iach mewn lleoliad trawiadol iawn.

 

Er nad oes gennyf restr o addunedau, mae Mrs Wilias a finna wedi cael rhandir eleni felly gwell fyddai ymrwymo i dorchi llewys yn fanno mae’n siwr. Mi fu gen’ i randir ar yr un safle hyd 2016 ond methu a’i dal hi ymhob man fu’r achos bryd hynny mae gen’ i ofn. Naw mlynedd yn ddiweddarach, dim ond pedwar diwrnod yr wythnos ‘rydw i’n gweithio, felly gyda lwc a dyfal donc, mi gawn rywfaint o lysiau a blodau oddi yno!

Blwyddyn newydd dda, gyfeillion, a llond y tŷ o ffa!

pibydd coesgoch
: common redshank, Tringa totanus
gylfinir: curlew, Numenius arquata
cornchwiglen: lapwing, Vanellus vanellus

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 9 Ionawr 2025

 


12.12.24

Hau'r Gwynt

Wyddoch chi y medrwch chi awgrymu enw ar gyfer stormydd?

Na finna’ chwaith; tan rwan. Eisau gwybod oeddwn pam bod nifer o enwau Gwyddelig ar y stormydd, ac enwau Cymraeg yn brin, felly mi drois at wefan y MetOffice. Yno mae’n egluro eu bod nhw -ar y cyd efo swyddfeydd tywydd Iwerddon a’r Iseldiroedd, yn rhoi rhestr at ei gilydd bob mis Medi.

Éowyn fydd enw’r ddrycin nesaf, a Floris, Gerben, a Hugo ddaw wedyn. Peidiwch a dal eich gwynt am enw Cymraeg yn y gyfres yma; ‘does yna ddim un. Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut mae dewis enw?’ dywed y Met bod yr enwau yn ‘adlewyrchu amrywiaeth y deyrnas gyfunol, Iwerddon a’r Iseldiroedd’. A dyna ni: debyg mae rhywun yn Llundain sy’n penderfynu pa enwau sy’n adlewyrchu gwledydd Prydain! Ond, medden nhw, maen nhw’n croesawu awgrymiadau am enwau i stormydd y dyfodol, a ffurflen bwrpasol ar eu gwefan -chwiliwch am eu tudalen ‘UK Storm Centre’. Dwi’n pendroni ai doniol ynta’ poenus a rhwystredig fysa gweld gohebwyr tywydd yn ceisio dweud Storm Rhydderch neu Lleuwen, ond ewch ati i gynnig enwau ar gyfer y flwyddyn nesa beth bynnag!


 

Bron union flwyddyn yn ôl, daeth storm Elin a gwyntoedd o 81 milltir yr awr i Gapel Curig a thros 4” o law yn Eryri. Hi oedd yr unig storm efo enw Cymraeg yng nghyfres 2023-24. Mi oedd Owain ar restr 2022/23 ond dim ond dwy ddrycin gafwyd y tymor hwnnw, a dim ond stormydd A a B welodd olau dydd!

Enwyd saith storom y flwyddyn cyn hynny, ond pwy fedr anghofio’r cyntaf ohonyn nhw, sef Arwen, ddiwedd Tachwedd 2021?  Gwn am ambell lecyn lle mae’r coed a chwalwyd dros nos gan Arwen yn dal blith draphlith ar draws llwybrau cyhoeddus, cymaint oedd y llanast annisgwyl oherwydd fod y gwynt yn hyrddio o’r gogledd.

Yn anffodus wnaeth y stormydd ddim cyrraedd y llythyren H yn nhymor ‘20-21. Mi fyddai Storm Heulwen wedi swnio’n rhyfedd iawn i glustiau Cymraeg dwi’n siwr.

Wrth yrru hwn i’r wasg, mae rhai o drigolion a busnesau’r gogledd, a “degau o filoedd... yn Sir Gâr a Cheredigion” -yn ôl gwefan Newyddion S4C- yn dal i aros i gael eu trydan yn ôl yn dilyn gwyntoedd Darragh ar Ragfyr y 6ed. Gobeithio y bydd adfer buan i bawb.

Rhaid cyfaddef imi gysgu trwy’r cyfnod rhybudd coch, heb glywed dim. Welsom ni ddim llawer o ddifrod yn ein rhan ni o Stiniog trwy’r rhybudd oren ychwaith a dweud y gwir, ond mi barhaodd yr hyrddio yn hir trwy ddydd Sadwrn a’r Sul hefyd. Do, mi amharwyd ar drefniadau wrth gwrs. Canslwyd diwrnod allan hir-ddisgwyliedig efo cyfeillion, a bu’n rhaid danfon y ferch i Gaer ddydd Llun oherwydd diffyg trenau yn y gogledd, ond dwi’n cyfrif bendithion nad effeithwyd fi a’r teulu’n fwy na hynny.

Y tirlithriad uwchben Llyn Y Ffridd

Credaf i ni gael mwy o law yn Stiniog ychydig ddyddiau cyn Darragh, nag a fu yn ystod y rhybuddion tywydd garw. Roedd yn dymchwel glaw dros nos ar y 4ydd/5ed. Wedi stido bwrw cymaint nes bod y cadwyn mynyddoedd sy’n bedol am dref y Blaenau yn llawn ffrydiau a nentydd newydd, ac mi fu tirlithriad bychan ar lethrau Ffridd y Bwlch. Mi fum yn crwydro’r ffridd bnawn Sul er mwyn cael gwell golwg, ac mae’n ymddangos fod yr holl ddŵr wedi gwneud y dywarchen mor drwm fel bod y pridd tenau wedi llithro oddi ar y graig lefn oddi tano a chludo tunelli o fwd a cherrig i lawr efo fo. 

Mae prosesau daeareg yn dal i siapio’n tirlun ni ers miloedd o flynyddoedd, ond mae’n ymddangos fod tirlithriadau yn digwydd yn amlach ar hyn o bryd. 

Wrth achosi newid hinsawdd, rydym ni wedi hau’r gwynt ac rwan yn medi’r corwynt, yn llythrennol.

Mi ges i lyfr yn anrheg yn ddiweddar: ‘100 Words For Rain’ a difyr iawn ydi o hefyd, efo rhestr fer o eiriau Cymraeg fel brasfwrw, curlaw, sgrympiau ac ati. Ond prin gyffwrdd â’r eirfa ydi hynny. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cynnwys ‘Glaw Stiniog’ yn eu rhestr; cymysgedd o falchder a siom i mi fel un o’r trigolion sydd, yn ôl cerdd Gwyn Thomas ‘wedi eu tynghedu i fod yn wlyb’!
Cadwch yn sych a chynnes tan y tro nesa’ gyfeillion.
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 12 Rhagfyr 2024 (Dan y bennawd 'Enwi'r Stormydd')

 

Ambell erthygl am y glaw yn Stiniog, yn Llafar Bro, papur misol Stiniog a'r cylch.

21.11.24

Pawb a’i fys

Roedd yr olygfa yn syfrdanol. Annisgwyl. Sefais am gyfnod yn edmygu a rhyfeddu.

Anaml iawn mae coedwig gonwydd yn cynhyrfu’r synhwyrau. Coedwigoedd masnachol, tywyll; miloedd ar filoedd o goed sbriws yn tyfu’n rhesi tynn. Prin dim golau’n cyrraedd y llawr, a dim byd yn tyfu oddi tanynt. 

Ond roedd y tro hwn yn eithriad. Ar ôl gwthio a stryffaglu trwy ardal drwchus dyma synnu o ddod i lecyn agored a golau, efo coed gweddol aeddfed, y cnwd wedi ei deneuo’n sylweddol dros y blynyddoedd. A hithau’n ddiwrnod hydrefol braf, ac ychydig o darth y bore yn dal i godi, roedd yr haul yn isel yn yr awyr, a’i belydrau yn tywynnu trwy’r coed. Mi anghofiais am ychydig funudau lle oeddwn i, yn gwylio’r bysedd haul yn hollti’r goedwig! Un o’r achlysuron hynny pan mae rhywun yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

Ond nid dyna’r unig beth gwerth ei weld. O bell, ar fonyn hen goeden wedi torri yn ei hanner, ‘roedd rhywbeth gwyn yn tynnu’r sylw, ac o’i gyrraedd, gweld mae llwydni llysnafeddog oedd o. Slime mould yn Saesneg. Teulu ydi hwn o organebau nad yw’r byd gwyddonol dal ddim yn gwybod y cwbl amdanyn nhw. 

Ddim yn anifail (er ei fod yn medru symud); ddim yn blanhigyn ychwaith. Dim hyd yn oed yn ffwng, er taw mycolegwyr -pobol ffwng- sy’n ei astudio yn bennaf. Y mwyaf dwi’n ddarllen am lwydni llysnafeddog, y mwyaf dwi’n ryfeddu. Mae’n byw fel organeb meicrosgopaidd, un gell, yn annibynol nes mae nifer ohonyn nhw’n dod at eu gilydd i greu’r llysnafedd er mwyn medru crwydro i chwilio am fwyd. O fewn oriau gall fod wedi aeddfedu, sychu, a chynhyrchu sporau sy’n gwasgaru ar y gwynt, a’r rheiny wedyn yn datblygu’n organebau un gell eto i ail-ddechrau’r cylch. 

Dan amodau labordy, mae gwyddonwyr wedi dangos fod y llysnafedd yn medru gweithio ei ffordd trwy labyrinth i ganfod uwd, yn medru cofio, synhwyro goleuni ac yn medru blasu, gan ymddwyn fel un creadur efo ymenydd er nad oes ganddo’r fath beth... Ew, mae byd natur yn fwy diddorol a dyrys nag unrhyw greadigaeth sci-fi!

Er gwaethaf dirgelwch y peth diarth yma ar y goeden, mae o’n tu hwnt o hardd o edrych yn fanwl! Ia, ‘wn i: mae hardd yn ansoddair rhyfedd iawn ar gyfer rhywbeth a elwir yn lwydni ac yn llysnafedd. Tydi fy llun i ddim yn gwbl eglur mae gen’ i ofn, ond mae’r miliynau o gelloedd wedi trefnu eu hunain fel rhesi o glystyrau byseddog gwyn, yn atgoffa rhywun o anemonïau môr, neu gwrel. Eto, dim ond lwc oedd i mi gyrraedd pan wnes i. Mae’n anhebygol y byddai wedi bod yno y diwrnod cynt na wedyn, yn y ffurf trawiadol yma. Llysnafedd cwrel (coral slime, Ceratiomyxa fruticulosa) oedd hwn mae’n debyg -un o’r rhywogaethau sy’n cynhyrchu ‘corff’ mawr fel hyn. Llysnafedd chŵd ci ydi un arall sydd i’w gael yng Nghymru, ac yn werth ei weld er gwaetha’r enw anghynnes.

Ffwng go iawn ydi’r tyfiant melyn sydd yn y llun gyda llaw. Corn carw melyn (yellow stagshorn fungus, Calocera viscosa), un oedd yno cyn i’r llysnafedd ymgasglu o’i gwmpas mwy na thebyg. 

Y cyrn melynion yma oedd yr ychydig bethau welais yn tyfu ar lawr di-haul y goedwig wrth wthio fy ffordd yn ôl trwy’r tyfiant i gychwyn am adref ar ôl bore gwell na’r disgwyl!
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 21 Tachwedd 2024 (Dan y bennawd 'Rhyfeddod Natur')