Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

13.9.15

Seren yr wythnos

Jasmin yr haf.


Jasminum officinale affinum


Yn llenwi'r ardd gefn ar hyn o bryd efo'i arogl sbeislyd arbennig, er mor fach ydi'r blodau.
Mmmmm..

Mae'n tyfu ar wifrau yn erbyn ffens, yn wynebu'r gogledd. Gyda lwc, efo 'chydig o docio priodol yn Chwefror, mi fydd yn llenwi'r lle sydd ar gael iddi efo blodau yn hytrach na changhennau a dail.


10.9.15

Llwyddo a methu

Mae darn a sgwennais rywbryd dros y Pasg yn son am gystadleuaeth fawr i dyfu'r blodyn haul talaf, yn ogystal a son am hau hadau diarth. (Rhuthr goddaith a.y.b)

Mi gawson ni lwyddiant efo un, a methiant llwyr efo'r llall.

Bu hen dynnu coes a thaflu llwch, a bwydo a thendio; brwydro efo malwod ac adar a gwyntoedd cryfion, a chyhuddiadau lu o dwyllo, ond o'r diwedd, daeth diwedd ar yr aros. Diwrnod olaf Awst oedd diwrnod mawr y mesur.

Fel hyn oedd hi ar yr awr dyngedfennol:

Cae Clyd. 70 modfedd. Medal efydd!



                                                             Rhiwbach. 77". Dyfarnwyd y fedal arian,
                                                             -ar ôl apêl yn erbyn y tâp mesur unigryw...

...ac, ar ôl hau yn hwyr a chychwyn yn araf...

Neigwl (tŷ ni) oedd pencampwyr teilwng 2015! Efo tri neu bedwar blodyn haul dros 90" roedd y fedal aur yn haeddianol. Er aros yn amyneddgar, ddaeth Dafydd Êl ddim acw i gyflwyno'r gwobrau, ond cyflwynwyd desgil wydr 'amhrisiadwy'  (wel, un fu'n hel llwch yn yr atig am ddegawd a mwy!) i'r pencampwyr i'w chadw am flwyddyn.


Dyma'r ddesgil, ahem, 'hyfryd' a'i gwaith llythrennu, ym..cywrain... ?!
Mae trigolion tŷ ni yn ysu am gystadleuaeth 2016 rwan, er mwyn i rywun arall orfod ei chael hi...

 

Ychydig o hwyl diniwed gwerth chweil. Be gewch chi'n well 'de. Bydd yn rhaid dewis testun cystadleuaeth 2016: moronen hiraf? Pwmpen drymaf efallai? "Bydd raid cytuno ar reolau o flaen llaw tro nesa" medd y ddau daid... nid eu bod nhw'n gollwrs sâl o gwbl! 

Beth am y methiannau ta?
Mi wnes i hau hadau pys merllys (asparagus peas) dair gwaith, ond pydru fu hanes bob ymgais. Rhy oer am yn hir iawn eleni doedd. Mi driwn ni eto'r flwyddyn nesa.

Tyfodd y ciwcymbar lemwn yn blanhigyn dwy droedfedd, cyn pydru yn ei bôn a marw. Gor-ddyfrio efallai, ond yn sicr wedi diodde'r oerfel hefyd.



30.8.15

Dim Eirin

Blwyddyn arall heb eirin.

Dim eirin Dinbych. Dim damsons gwyllt. Dim eirin tagu.

Mae pen draw i amynedd pawb, ac mae'r goeden eirin Dinbych yn yr ardd gefn yn agosáu at y last chance saloon. Mi flodeuodd hi eto eleni, ond ddaeth dim ffrwythau. Bosib iawn mae'r cyfnod oer adeg blodeuo achosodd y methiant, ond roedd gwenyn yn sicr wedi bod yn peillio arni. Bosib nad ydi'r goeden yn fodlon yn ei lle; rhy agored i wynt efallai.

Neu gall fod yr impiad a'r meithrin gwreiddiol yn sâl... dwn 'im.

Ar ôl blynyddoedd heb gynhyrchu, o'n i'n poeni digon amdani llynedd i ffonio'r feithrinfa sy'n impio a thyfu a gwerthu coed eirin Dinbych, i holi am gyngor.

"Rho flwyddyn/ddwy arall iddi" medda hwnnw. Mi fysa fo bysa!

Ta waeth, roedd y goeden wedi rhoi tua tair troedfedd o dyfiant newydd ar bob cangen eleni (awgrym bod y lleoliad yn addas?) ac yn datblygu'n hen beth blêr a heglog.

Dwi wedi ei thocio hi ddiwedd Gorffennaf, gan dorri'r prif fonyn er mwyn agor y canol, ac wedi lleihau hyd y tyfiant newydd i'w hanner.


Dwi wedi clirio popeth oedd yn tyfu o gwmpas ei bôn hi hefyd gan obeithio bod y cyfuniad -efo chydig o fwydo a thendans y gwanwyn nesa'- yn arwain at goeden mwy bodlon, a pherchnogion mwy bodlon hefyd.


Neu bydd y llif yn dod allan. Fe'i rhybuddwyd!


23.8.15

Tywallt ac arllwys

Wedi cymryd gair y dyn tywydd bore 'ma, a mentro allan am dro cyn cinio efo dwy o'r genod, gan ddisgwyl iddi aros yn sych tan ddau o'r gloch.


Difaru wedyn!


Crwydro uwchben tref 'Stiniog heibio'r Fuches Wen a Hafod Ruffydd, ac wrth ddringo'r domen i chwarel Maenofferen, cyrraedd gwaelod y cwmwl, fel cerdded trwy ddrws i stafell wahanol...



Ymhen dim, a ninnau ar ein ffordd 'nôl i lawr, roedden ni'n wlyb at ein crwyn, yn rhedeg a chwerthin bob-yn-ail.


Bwrw hen wragedd a ffyn dros graig Garreg-ddu, a ninnau 'nôl yn y dref yn 'mochal mewn drws siop yn gwylio mellt a rhyfeddu at y dŵr ddaeth o nunlle i lenwi'r gwterydd i gyd.


Diwrnod arall ym Mlaenau Ffestiniog! Diwrnod cofiadwy cyn gorfod mynd 'nôl i gwaith.


20.8.15

Dal gwyfynod

O'r diwedd daeth noson braf a digon cynnes nos Sul i dynnu'r llwch oddi ar y lamp dal gwyfynod.

Bu ymlaen rhwng 9.30 a hanner nos, sydd ddim hanner digon a deud y gwir, ond o'n i'n barod am fy ngwely, a ddim isio codi wrth iddi wawrio i rwystro popeth rhag dianc yng ngolau dydd, felly mi rois geuad arno tan y bore.

Mae'r twb o dan y lamp yn llawn o ddarnau bocsys wyau iddyn nhw gael clwydo.

Bu'r Fechan a finna'n mynd trwyddyn nhw fore Llun yn chwilio am y rhai mwyaf deniadol, gan anwybyddu'r degau o wyfynod brown, diflas. Amaturiaid llwyr!

Siomedig braidd oedd yr helfa, heb unrhyw walch-wyfynod na theigars gardd, sêr lliwgar y gwyll. Ond mi gawn gyfle i roi'r trap allan eto cyn diwedd y mis, gyda lwc.



Mae'r gem gloyw, neu'r gem pres gloyw yn stynar go iawn. Fedr llun ddim cyfleu'r lliwiau hardd metalig sydd ar adenydd hwn yn iawn, ond mae'n werth ei weld. (Burnished brass moth; Diachrysia chrysitis)


Gwyfyn corn carw. Peth bach brown, ond y patrwm dyrys ar yr adenydd yn ei gwneud yn hawdd i'w nabod. (Antler moth; Cerapteryx graminis)


Gwyfyn brith, neu 'pupur-a-halen'. Cuddliw ar gyfer rhisgl coed bedw. (Peppered moth; Biston betularia)


 Melyn y drain (brimstone moth); carpiog y derw (scalloped oak) ymysg y lleill.




 Llawer iawn o'r lleill wedi hedfan cyn i ni gael llun, neu'r lluniau ddim digon da.


Y gacynen hardd yma wedi hedfan, ond yn ddigon caredig i lanio ac aros i mi dynnu llun.

DOLEN i erthygl o bapur bro Stiniog a'r cylch am wyfynnod.

Dolen i blog Ailddysgu am wyfynod.