Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

18.8.15

Garddio guerilla a biwrocratiaeth dda!

Peidiwch a deud wrth neb, ond mae'r Fechan a fi wedi bod yn hau hadau ar verges y ffordd gefn acw. Rebals wîcend go iawn.

Erbyn eleni, roedd ein pabis melyn, pabis coch, pig-yr-aran, mantell y forwyn, llysiau milwr, ac ati yn addurno lleiniau o laswellt fan-hyn-fan-draw, ac er bod y Cyngor Sir yn eu torri'n achlysurol, roedden nhw'n edrych yn well na'r glaswellt bwrdeistrefol, unffurf arferol.


Pan brynson ni'r triongl er mwyn medru mynd a'r biniau allan i'r cefn, daeth llain o 'verge' ar ochr y ffordd efo fo, a dwi wedi bod yn 'helpu' dipyn o perennials dyfu wrth y giât. Maen nhw fel arfer yn edrych yn dda erbyn Awst, ac wedi cael llonydd golew bob blwyddyn gan gontractwyr glaswellt y Cyngor.

Tan eleni. Mewn cyfnod o doriadau ariannol, mae'r lladd gwair wedi cynyddu am ryw reswm!


Dwi'n dallt bod verge yn aml iawn yn ffurfio rhan allweddol o'r ffordd, ac ar gyffordd ac ati mae angen rheoli'r tyfiant er mwyn diogelwch defnyddwyr y ffordd. Ond yn yr achos yma, cul de sac ydi'r ffordd gefn; ac un ddistaw iawn o ran traffic.

Torrwyd yr ardal gyntaf ym mis Mai. Popeth yn iawn: mae'r selebs garddio ar BBC2 yn hyrwyddo'r "Chelsea chop" bob blwyddyn 'tydyn!

Oedd, roedd yn biti canfod y lle wedi'i droi'n llanast eto wedyn yn ystod Mehefin, ond roedd yn ddigon buan i gael arddangosfa o hyd... ac roedd yn dod yn ddigon del ddiwedd Gorffennaf...

Ond, daeth dyn y strimar eto fyth ar fore'r 5ed o Awst -o lech i lwyn heb i ni ei weld. Er mawr siom, torrodd y cwbl eto, er fy mod wedi marcio'r ardal efo cansenni crwn.


Ar un adeg, mae'n siwr gen' i y byswn wedi ffonio'n syth i gwyno a diawlio, ond dwi 'chydig callach yn fy mhedwardegau. ("Hyh!" fysa'r Pobydd yn ddeud ma' siwr tasa hi'n darllen hwn.)
O'n i rhwng dau feddwl oedd o'n werth cysylltu o gwbl, ond mi ddudodd y Fechan yn ddiniwad i gyd: "Dyliat ti sgwennu llythyr atyn nhw Dad i ofyn pam".

Gyrrais ebost hwyliog ar Awst y degfed yn gofyn yn gwrtais iddyn nhw egluro os oedd is-ddeddfau neu rwbath arall yn rhwystro tyfu blodau ar verges Stiniog? Doedd dim pwrpas dwrdio efo'r ymholiad cynta'; mae mil o bethau pwysicach mewn bywyd yn'does.

Os dwi'n onest, o'n i'n disgwyl ateb swyddoglyd a biwrocrataidd. Ond mi ges i siom o'r ochor orau go iawn.

Erbyn y 14eg, roedd arolygwr priffyrdd y Cyngor Sir wedi bod yn archwilio'r safle medden nhw, ac mi ges i ateb yn cadarnhau y gallwn annog blodau wrth y giât o hyn ymlaen! Beryg i adran briffyrdd Gwynedd roi enw da i fiwrocratiaeth. Diolch am eu hagwedd ymarferol; mae'n adfer hyder rhywun yn yr awdurdod lleol.


16.8.15

Traed i fyny

Llwybr arall wedi'i orffen. Gwely newydd yn barod i'w blannu.
Traed i fyny; peint yn yr haul.


Y gwaith adeiladu mwy neu lai wedi gorffen rwan, felly cawn fwy o amser i ymlacio yn yr ardd, heb deimlo bod cant o bethau i'w gwneud!


Arddangosfa wych o flodau Mari a Meri, nasturtiums, eleni. Y rhain wedi'u plannu mewn hen grwc efo pys pêr, letys, a lobelia. Edrych ymlaen i biclo'r hadau..


Cnwd da o ffa eto; pys yno hefyd o'r golwg. Blodau haul yn dal i fyny ar ôl dechrau araf iawn trwy'r nosau oer.


Dau blanhigyn pwmpen sydd o dan y twnel bach yng ngwaelod y llun. Y rheiny wedi dioddef yn ddiawchedig efo'r haf hwyr hefyd, a dyna pam dwi wedi rhoi plastig drostyn nhw.  Crown prince, yr hen ffefryn ydi un; ac amazonka ydi'r llall. Mae un o bob un lawr ar y rhandir hefyd, yn yr awyr agored.



9.8.15

Wastad yn mynd i Lydaw..

Teimlo'n euog am adael bythefnos rhwng dau ddarn eto... dyma lun neu ddau... a 'chydig o fwydro.

Yn unol â hen addewid, dyma lun o'r Clematis viticella 'Madame Julia Correvon' sy'n blodeuo rwan, ar dalcen ogleddol y cwt.


Mi fuon ni am wsos a hanner i orllewin Iwerddon; i'r Gaeltacht yng Nghonemara, a chael ein hamgylchynu gan iaith hyfryd ond bregus yr Wyddeleg.

Naw wfft i Dave Datblygu sy'n canu'n llawn gwenwyn am Gymry sydd "wastad yn mynd i Lydaw: byth yn mynd i Ffrainc..." bla, bla. Tydi o ddim byd o'i fusnas o os ydi rhai isio mynd i fwynhau diwylliant wahanol. Twll ei dîn o. 'Mond math gwahanol o snobyddiaeth sydd ganddo fo yn y pendraw.

Ond awn ni ddim i golli cwsg dros rhyw lolbotas ddi-ddim fel'na. Rheswm callach i beidio mynd i Lydaw a Chonemara ydi'r tywydd Celtaidd! Tua 6 blynedd yn ôl mi fuon ni ar Ynys Skye am wsos, a chael glaw bob dydd. Dywedwyd bryd hynny na fysan ni fyth yn mynd i'r gogledd am wyliau eto! Glaw yn Llydaw hefyd yr 'haf' canlynol.

Mi gawson ni law bob dydd yn Iwerddon eleni hefyd.... a thonnau mawr ar y ffordd 'nôl i Gaergybi wedyn. Dwn 'im fydd neb isio dychwelyd i fanno chwaith.

Ar y llaw arall, mi welson ni lefydd gwych, cyfarfod pobl ddifyr ac angerddol, a llwyddo i wneud rhywbeth bob dydd.

Ynys Ghólaim; Clogwyni Moher; Knowth ar y ffordd adra; cwrel ar draeth Tra An Doilin; un o ddolydd blodeuog gwych Y Burren.

Wrth gyrraedd adra, y peth gynta wnaeth y Fechan a finna oedd mynd allan i'r ardd i weld e oedd be, a mwynhau mafon yn syth o'r llwyn, ac ogleuo pys pêr. Mmm.

Does unman yn debyg i adra.







25.7.15

Cwt coed a draenogod

Mae o leiaf un rhan o'r ardd gefn yma mewn llanast ac anhrefn ar ryw adeg trwy'r flwyddyn.

Wrth inni ddod i ben efo creu'r ardd fesul darn, rydan ni'n arbenigwyr mewn symud pethau o un lle i'r llall; dybl-handling a hanner. Mae'n teimlo weithia fel bo' angen gwneud tri neu bedwar peth cyn allwn ni wneud y joban sydd dan sylw. Mynd rownd mewn cylchoedd...

Ta waeth, gwaelod yr ardd sydd wedi cael y sylw diweddara' (ardal 12 ar y cynllun).

Mae prinder lle i gadw coed a phren yma, felly mi godais gwt bach newydd. Roedd yn rhaid i mi dalu am goed y ffrâm, ond roedd y gweddill yn stwff oedd yma'n barod, gan gynnwys offcuts to newydd Garej Paradwys.


Ymhell cyn codi'r cwt, bu'r Fechan a finna'n gwneud 'tŷ bach clyd' ar gyfer y draenog sy'n galw yma bob haf. Blaenoriaethau!


Mae'r ardal yma ar lethr ac roedd angen ail-adeiladu'r grisiau i lawr yno efo llechi oedd o gwmpas y lle, a dwi wedi lefelu'r tir rhywfaint i gael lle i lifio a hollti coed tân ac ati. Mae casgen ddŵr yn dal y glaw oddi ar do'r cwt i ni gael manteisio rhywfaint ar dywydd Stiniog i osgoi cario dŵr 'nôl a mlaen yno.


Roedd angen clirio'r ddaear wrth fôn y goeden eirin (eirinen Ddinbych) hefyd. Tydi honno heb gynhyrchu ffrwyth ETO eleni, o bosib am fod gormod o blanhigion yn cystadlu am ddŵr a maeth o'i chwmpas hi.

Da' ni wedi gwasgu un gwely ychwanegol i mewn hefyd; gwely fydd yn y cysgod am y rhan fwya o'r diwrnod. Gwaith cynllunio at eto fydd plannu hwn.

Edrych lawr i gyfeiriad y cwt newydd, a thwmpathau o goediach yn barod i fynd i fewn iddo.
Am rwan, mae'n braf cael clirio'r coediach sydd wedi bod o gwmpas y lle 'ma, a gweld yr ardd yn altro fesul dipyn. Dim ond un lle -ochr ucha'r trampolîn- sydd angen sylw mawr rwan, a byddwn ni wedi gorffen (!).
------------------

Gair cyn cloi i ddiolch i'r Cneifiwr am ei eiriau caredig wrth iddo gau'r blog bu'n cadw ers 2011; blog difyr am wleidyddiaeth leol a chenedlaethol. Bydd biwrocratiaid Sir Gâr yn cysgu'n brafiach wrth i'r Cneifiwr dawelu, ond bydd chwith ar ei ôl o.



19.7.15

Tatws cynta'

Daeth y clwy tatws acw.


Dwi wedi codi dwy res o'r tatws cynnar yn gynt nag oeddwn isio gwneud. Ond roedden nhw wedi bod yn y ddaear ers 100 o ddyddiau, felly mi gawson ni gnwd golew.

Roedd y clwy wedi difetha rhai o'r tatws, ond argian, roedd y lleill yn dda efo menyn hallt.

Blas yr haf. Hyfryd.

Rhes arall o  Arran Pilot i edrych ymlaen atyn nhw, a'r tatws ail-gynnar -Bonnie- i ddilyn o'r rhandir, sydd ddigon pell o'r clwy yn yr ardd gefn.