Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

2.8.16

Glaw

Dwi isio rhegi. Isio crïo. Gwaeddi.

Mae'r glaw di-baid; dyddiol; cyson, yn ddigalon. A dim golwg am ddiwedd arno.

'Run ffordd dwi'n mynd allan yn hwn...

Ychydig funudau cyn hanner nos ar noson ola' Gorffennaf, roedd dyn tywydd y BBC yn canmol bod Ynys Wyth wedi cael eu mis Gorffennaf sychaf ar gofnod, efo dim ond 1.4mm o law. Ia, un pwynt pedwar! Ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd y crinc yn dweud "some welcome rain has watered the gardens of southern England..."    !#*&$*#!

Ar fore diwrnod cynta Awst, mi es i hanner ffordd i fyny ochr ddeheuol Cadair Idris (yn rhinwedd fy swydd fel rheolwr y warchodfa natur yno), er mwyn mesur glawiad mis Gorffennaf.

393mm. Ia, pymtheg modfedd a hanner!

Neis de! Ac mi ges i socsan wrth gerdded i fyny yn y glaw hefyd.


...ond wedyn dwi'n cofio be oedd ffrind coleg yn ddeud ers talwm...
"Mae 'na bobl yn llwgu ym Mwlch Tocyn".

Ac mae 'na bobl yn y byd sy'n byw mewn ofn, mewn rhyfel, heb gartref, heb ddŵr glan, heb hawliau sylfaenol... gwell peidio cwyno gormod am y tywydd s'bo.

Tynged y ceirios wrth aeddfedu yn y glaw...

6 comments:

  1. Lot fawr o law heddiw yng Ngheryw, cyn hynny sych dros ben ac heuliog oedd hi drwy´r Gorffennaf.

    Meur a law hedhyw yn Kernow, kyns henna sygh dres eghenn hag howleg o hi dre Ortheren.

    ReplyDelete
  2. Meur ras dhis; diolch Marconatrix.
    Braf arnoch acw. Gyrra rhywfaint o haul i'r gogledd!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Dim haul yma ar hyn o bryd, ac mae´r glaw newydd wedi peidio ... o bosib ... ?

      (Nynz eus howlsplann-vyth omma y´n eur-ma, ha re hedhas an glaw a-gynsow ... dell waytyav ... ?)

      Delete
  3. Piti na fasai'r glaw yn cael ei ddosbarthu'n well. Yn fama, mae o wedi bod yn sych ofnadwy, a'r planhigion wedi gwywo....ddoe cawsom law o'r diwedd, ond dwi ddim yn siwr bod digon wedi disgyn....

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mi fyswn yn falch o rannu rhywfaint o law Ann!
      Heddiw oedd y diwrnod sychaf o'r wythnos i fod.. ond wrth baratoi i fynd am dro... daeth y glaw eto!

      Delete
    2. Gweddol sych yma dros y Mor Hafren heddiw ... ond ble mae´r haul wedi mynd?

      Delete

Diolch am eich sylwadau