Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

1.1.16

Addunedau i'w torri...

1. Gwneud mwy o gompost.

Rhaid dechrau trwy droi hwn.
Dwi ddim wedi rhoi bwyd wedi'i goginio yn y twmpath erioed, ond ar gais cymydog, dwi heb roi unrhyw wastraff gegin ynddo ers tua dwy flynedd chwaith oherwydd llygod mawr. Dim parion tatws, dim plisgyn ŵy, dim croen bananas. Tydi o heb stopio'r diawled rhag twrio yn y compost wrth gwrs. Dim ond toriadau gardd a dail te a choffi sy'n mynd iddo rwan. Wrth roi popeth mewn un bin fesul chydig, tydi o ddim yn c'nesu digon i bydru'n iawn. Dwi'n dal i ddysgu. Hira'n byd y byddi fyw, mwya gweli, mwya glyw.

2. Rhoi trefn ar y rhandir!

3. Darllen mwy.
Fel bob tro, mae gen' i lwyth o ddeunydd darllen ar eu hanner ar yr un pryd. Dwi ddim yn gweld hynny'n wahanol i rywun sy'n gwylio Pobl y Cwm ar y teledu, wedyn Y Gwyll; gwylio dogfen yfory efallai, a Rownd a Rownd a drama arall ar ôl hynny. Ar hyn o bryd mae 'Antur i'r Eithaf' Eric Jones, 'Cam i'r Gorffennol' Rhys Mwyn, 'The Man Who Made Things Out of Trees' Rob Penn, 'A Year of Good Eating' Nigel Slater, a 'Sesiwn yng Nghymru' Huw Dylan Owen, i gyd ar y gweill. Dau yn y gegin, un yn y parlwr, un wrth y gwely, ac un yn y lle chwech- gewch chi ddyfalu pa un.
Mae llawer iawn mwy yn aros...

Beicio mwy. Diogi llai. Cyfrannu. Gwrando. Cyfri' i ddeg ac ymlacio.

Gawn ni weld!


2 comments:

  1. Anonymous3/1/16 14:45

    Beth am gyfuno 1 a 2? Dibynnu pa mor aml wyt ti'n mynd i'r rhandir (a faint o le sydd yn neu wrth ymyl y gegin), ond byddwn ni'n cadw gwastraff cegin mewn bwced a chlawr iddo, a mynd ag ef i'r domen gompost pan fydd yn llawn. Mwy o amrywiaeth deunydd wastod yn beth da.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Syniad da os gallaf ddisgyblu fy hun i fynd i'r rhandir. Fyddai o ddim wedi gweithio yn 2015 mae gen' i ofn!
      Dwi dal angen gwneud compost yn yr ardd hefyd, oherwydd go brin fyswn i'n cario stwff adra o'r rhandir..

      Delete

Diolch am eich sylwadau