Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

8.2.14

Heu hada bychin

Dwi wedi bod yn un drwg am gadw hadau, ond wedi sylwi'n raddol mae gwastraff amser ydi hau hen rai yn aml iawn. Diflas ydi gorfod ail hau ar ol methiant y cynigion cynta'. Mae colli pythefnos mewn tymor mor fyr yn boenus. Ac yn arwydd o ffolineb trio arbed punt neu ddwy weithau...

Eleni, dwi wedi mynd trwy'r pacedi a thaflu llawer iawn o hadau sydd ymhell dros eu dyddiad, fel moron, panas, a nionod; neu rai sydd wedi bod yn siom, fel yr india corn deuliw.




Dwi wedi rhoi cynnig ar bod yn drefnus am unwaith, trwy restru'r hadau sydd gen' i. A hynny ar spreadsheet, a ddim ar gefn amlen: peth diarth i mi..

Fel arfer, byddai'n prynu hadau sy'n denu fy llygaid, ac weithiau'n anghofio amdanyn' nhw nes mae'n rhy hwyr i'w hau!

Eleni, mae gen' i syniad gwell o be dwi angen cyn dechrau meddwl am hau ym mis Mawrth ac Ebrill.

Bydd y rhai sydd wedi'u labelu'n 'hen' ar y rhestr yn cael eu hau yn weddol drwchus mewn potiau a dysglau yn y ty gwydr y mis yma, i gael dail bach salad cynnar.

Mae gen' i amrywiaeth o had: wedi eu prynu mewn ffair hadau fan hyn a sioe flodau fan draw; nifer ddaeth am ddim efo cylchgronnau; rhai yn hanner paced wedi'i rannu efo cyfeillion; ac eraill yn had wedi eu cadw o 'mhlanhigion fy hun, a phlanhigion cyd-arddwyr hael. (Tydi pob un yn hael on'dydi!)


Tatws had ydi'r cynta' ar y restr siopa. Dwi angen pys, ffa melyn, india corn, ac ambell beth arall. Fydd hi ddim yn hir na fydd ffenast y gegin yn llawn i'r ymylon o hambyrddau eto!

Dwi am blannu mwy o ffrwythau a llysiau parhaol o hyn allan, felly ar ol eleni bydd llai a llai o bwyslais gen' i ar lysiau blynyddol mae'n siwr, gan obeithio am lai o lafur a llai o siom. Cawn weld!





2 comments:

  1. Anonymous20/2/14 15:12

    Yr un broblem yma - a'r un ymgyrch electronig i wella pethau. Wedi towlu nifer o hen hen hadau i'r domen gompost nôl ym mis rhagfyr: dim byd wedi egino yno hyd heddiw.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae dy flogio diweddaraf di wedi arwain at y genfigen flynyddol am dywydd a ffa Asturias...

      Delete

Diolch am eich sylwadau