Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

6.10.13

Melys Moes Mwyar

Dwi'n casau mwyar duon.
Ond dwi wrth fy modd efo nhw hefyd.

Y planhigyn ydi'r cocyn hitio.  Mae'n frwydr barhaus yn y cefn acw i gadw'r mieri rhag tyfu o'r cae drws nesa i mewn i'r ardd. Sglyfath o beth ydi o! Pigog hefyd.

Ond mae'n blanhigyn gwych 'run pryd tydi.
Blodau hardd sy'n denu gloynod a gwenyn a phryfed.
A chnwd anhygoel o ffrwythau. Yn enwedig eleni.

Gallwch son am fitamin C a gwrth-ocsidau,
ond brolio ydw i'n bennaf am eu blas nhw.

Soniodd rhywun wrthai'n ddiweddar am y maeth sydd mewn hadau mwyar duon a mafon ac ati...ond ga'n nhw fynd i chw'thu! Mae 'na ormod o lawer o hadau mewn mwyar duon does; ych, damia nhw!

Mae'n bendant yn fy marn i felly, yn werth yr ymdrech ychwanegol o wneud jeli yn hytrach na jam.
Dim ond hanner dwsin o botiau ges i'r tro hwn, ac mae dau wedi eu rhannu a dau wedi eu bwyta gan y plant (oce, a gen' i hefyd) ac un arall wedi'i ddechrau, fel welwch yn y llun.

Cadw un tan y Dolig ydi'r gobaith, felly bydd yn rhaid i mi ei guddio tu ol i'r potiau jeli criafol nad oes neb ond fi'n fwyta!

Mae Bethan Gwanas* wedi gwneud jeli mwyar duon efo chili, i fynd efo caws a chig a phate medda hi. Swnio'n glincar o syniad at flwyddyn nesa. Neu (gan bod rhai'n dal ar gael) yr wythnos yma ...os fydd gen i fynadd gwneud mwy eto!







Mi fues yn nhy fy rhieni ar ol gwaith un diwrnod hefyd yn gwneud chutney efo Mam, efo rhywfaint o'u cnwd anferthol nhw o afalau Enlli.

Tydi'r Pobydd na'r Arlunydd methu diodda finag, felly does fiw imi drio gwneud picls o unrhyw fath acw! Ges i ddigon o swnian pan ddois i adra a 'nillad yn drewi!

Ond ew: stwff da ydi o! Bydd yn anodd iawn ymatal rhag agor pot cyn iddo gael cyfle i aeddfedu'n iawn. Gin i awyd bechdan gaws rwan deud gwir...

Melys moes mwy.


* Jeli Bethan Gwanas




4 comments:

  1. Methu gweithio allan sut mae dy ddilyn di heb ffaffian efo agor ryw bali account newydd efo rywun arall eto fyth. Oes na ffordd hawdd?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Cwestiwn da! Dwi wedi bod yn dewis plannu diweddariadau RSS ar fy nhudalen gartref iGoogle, ond wrth gwrs, mae cwmni Gwgl yn claddu hwnnw ddiwedd y mis, ac mae'r opsiwn wedi diflannu o'r rhestrau dewis... felly dwi ddim yn siwr i fod yn onest. Sori!
      Gosod bwcmarc ar y blog yn ffordd arall efallai.
      Mae'n dda cael pobl sydd eisiau dilyn, diolch i ti.

      Delete
  2. A nes i sgwennu sylw mawr hir am blwmin jams a jelis ac egroes a sut dwi'm di licio'r enw ers gwersi bywydeg, a well gen i eirin meirch am ei fod o'n swnio'n fwy Meirionnyddaidd... Dwn i'm lle diflannodd hwnnw. Y sylw dwi'n feddwl. Di blino gormod i sgwennu'r cwbl eto. Grrrr.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae dy rwystredigaeth efo Wordpress yn amlwg ers tro ar dy flog!
      'Eirin meirch' yn newydd i mi. Ti'n iawn, mae egroes braidd yn ddiarth i'r glust, a mwcod/mwcog yn chwithig iawn tydi. Beryg mai 'hips' fyddwn i'n ddeud ar lafar, ond efo arferiad daw 'egroes' yn fwy naturiol efallai... o leia' dio ddim mor hurt ag ambell jargon fel 'allbwn' a 'rhiantu' aballu!

      Delete

Diolch am eich sylwadau