Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

21.10.13

Dydd Lluniau- Crwydro

Ychydig o luniau a llai o fwydro..

Gwenynen hwyr ar feillion, ar y rhandir. Mae'n talu i beidio chwynnu gormod!

Crwydro 1, Waunfawr:

13 Hydref. Helfa ffwng ym Mharc Dudley, wedi ei drefnu gan Gymdeithas Edward Llwyd, a'i arwain gan Gareth Griffiths, Prifysgol Aberystwyth.

Braf cael rhannu diddordeb efo criw Cymraeg, brwd.



Ffwng draenog. Un o'r madarch gwyllt hawddaf i'w nabod, efo'r pigau dan y cap, a'r unig rai oeddwn yn medru dod adra o Waunfawr efo fi. Blasus iawn wedi'u ffrio mewn menyn.


Crwydro 2, bryniau Llyn Tegid:

19 Hydref. Owain a Gareth; rhuthro o flaen y cymylau duon.
Methu ddaru ni, a chael socsan hen ffasiwn cyn cyrraedd tafarnau'r Bala.

Fel llynedd, araf braidd oedden ni:

yn ol technoleg Gareth, 4 awr a 57 munud gymrodd y daith, ond dim ond am 3 awr ac 8 munud oedden ni'n symud! Mae hel clecs a dal i fyny'n waith caled tydi!

'Mond 11.55 cilomedr oedd y daith, ond pob un ohonyn nhw'n hwyliog a difyr.





Llyn Tegid dan awyr ddu.
Mae gan Gareth luniau gwell o lawer na'r rhain a dynnais ar y ff^on, ond dwi heb ganfod sut i'w sbachu nhw oddi ar ei gyfrif  flickr  hyd yn hyn!


Cerflun Tom Ellis, Stryd Fawr Y Bala. 
 
Fel mae'n digwydd bod, dyma arwyddair fy ysgol uwchradd hefyd, Ysgol y Moelwyn, Stiniog. 
Does gen' i ddim cof bod neb wedi egluro i mi be mae cynysgaeth yn feddwl. Pan o'n i ddigon call i edrych amdano fy hun rai blynyddoedd ar ol gadael y twll lle (twll ar y pryd; ond chwip o ysgol erbyn hyn, dwi'n falch o ddeud), mi ddois i werthfawrogi'r motto. 
Etifeddiaeth, neu gyfoeth yn wir ydi amser. Yn enwedig yr amser ryda' ni'n gael ei dreulio efo teulu a ffrindiau da.




Crwydro 3, o Stiniog i Feddgelert:

Hon yn daith hy^n, ar ddiwrnod olaf Awst, efo Carey a Dewi. O Ddolrhedyn i Gwmorthin; Chwarel Rhosydd, Cwm Croesor; Nantmor, Glaslyn a Beddgelert. (Lluniau gan Dewi)


Lindys y gwyfyn blaen brigyn (buff-tip) ydi'r rhain, ar dderwen. Cannoedd ohonyn nhw!


 Iechyd da!

Diolch bawb am ddyddiau difyr eto.





2 comments:

  1. Am lluniau hyfryd! Diolch i ti am ranu nhw. Dwi'n genfigenus - o'r teithiau ag o'r madarch gwyllt. Bob blwyddyn dwi eisio mynd ar cwrs madarch, a dwi ddim wedi llwyddo eto. O gwmpas MK, dyn ni'n cael llawer fath o fadarch - ond dwi ddim wedi gweld y ffwng draenog.

    ReplyDelete
  2. Diolch Ann. Am ryw reswm mae llwyth o helfeydd ffwng wedi cael eu hysbysebu ffor' hyn eleni, ac o'r diwedd llwyddais i ymuno ag un ar ol blynyddoedd o fethu (neu o ddiogi efallai)! Dwi'n chwilio am ddraenogod ym mhob man rwan!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau