Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

15.6.13

Blodau brith

Rydan ni newydd ddod adra o berfformiad y Theatr Genedlaethol o 'Blodyn' trwy strydoedd Stiniog.

Dyma mae gwefan ThGC yn ddweud:

"Cynhyrchiad cymunedol proffesiynol gan drigolion Blaenau Ffestiniog a Talysarn.


Fersiwn unigryw, modern a pherthnasol o chwedl ‘Blodeuwedd’ yw Blodyn. Cynhyrchiad theatr promenad wedi ei gyd-greu gan wirfoddolwyr o’r cymunedau ac arebingion mewn actio, dawns, canu, celf, ffilm a llawer mwy."

Un o'r prif gymeriadau, Ger, (Dyfrig Evans) yn ei dweud hi am y biwrocrats a gauodd 'Sbyty Goffa 'Stiniog!

Argian, mae'n amlwg bod llawer iawn o waith wedi mynd ymlaen ers diwedd Ebrill, felly llongyfarchiadau i bawb gymrodd ran. Ar ol tywallt y glaw am awr dda cyn i'r sioe ddechrau, mi giliodd y glaw, diolch i'r drefn! Mi gychwynodd popeth yn aelwyd yr Urdd Stiniog, cyn i hanner y dorf ddilyn Ger, ar gefn ei lori waith, a'r hanner arall ddilyn Blodyn. Dwi'n meddwl fod y ddau griw wedi ymuno erbyn cyrraedd neuadd Ysgol y Moelwyn, gan fod y ddau brif gymeriad yn dod yn ddau gariad yno, cyn i Ger glywed fod gan Blodyn gariad -Llion- a hwnnw isio cwffio!












Roedd y Fechan wedi mwynhau'r cyffro o symud o le i le, a Ger yn annog pawb i gyd-ganu "Blaena' -Blaena', ni di'r gora'" wrth inni fynd! Roedd yn brofiad arbennig wir, ac ro'n i'n llawn balchder ei fod yn digwydd yn ein milltir sgwar ni. Dwi'n siwr fod pobl Talysarn wedi cael yr un wefr neithiwr ac echnos hefyd. Bydd y perfformiad ola' nos 'fory (Sul, 16 Meh).


Os oes rhaid cwyno, braidd yn anodd oedd hi i ddilyn y stori weithiau, gan nad oedd yn hawdd clywed y cymeriadau'n gwaeddi dros y dorf, ac i fod yn onest, roedd sgript Ger ar adegau'n mynd yn rhy bell o lawer i gyfeiriad siarad stryd. Gor-wneud y braitiaith; ydyn siwr mae rhai pobl ifanc yn dweud 'waviwch' yn lle 'codwch law', a 'judgio' yn lle 'beirniadu', ond uffarn da^n, does neb mor ddrwg a'i bortread o chwaith! Ond dyna be sy'n digwydd os ydi'r cwmni yn annog y plant lleol i gyfrannu at y cynhyrchu efallai? 

Ta waeth, roedd y diweddglo yn wych, gyda'r cast a'r dorf yn ymuno i ganu 'Anthem Blodyn'. Gallwn wylio a gwrando ar yr ymarfer yn fan hyn:



Y mis nesa, bydd y Theatr Genedlaethol ym Mro Ffestiniog eto, y tro hwn ar safle Tomen y Mur, Maentwrog Uchaf, safle tybiedig Mur Castell yn y Mabinogi, efo drama Saunders Lewis, Blodeuwedd. Mae 'na edrych ymlaen yn arw at hynny hefyd. Diolch i Arwel Gruffydd am ddod a ThGC  i fro ei febyd ddwy waith.




Sioe arall welodd y Pobydd a fi'r wsos yma oedd y comediwr Bill Bailey, yn Llandudno.
Meicro-adolygiad: darnau doniol a chlyfar iawn, ond talpiau hefyd ar gyfer Saeson uniaith sy'n mwynhau chwerthin am ben ieithoedd eraill fel Daneg, Mandarin, a Siapaneeg; yn son am 'our country' ac 'our government' ac ati.  Uchafbwyntiau- dynwarediad ardderchog o bilidowcar gwlyb a blin, a disgrifiad doniol o Alan Titchmarsh: "the cold, dead eyes of a gardener"!!

Mae'r glaw wedi dychwelyd eto rwan: dyma obeithio na fydd efo ni trwy'r haf eto!
Wythnos yn ol, roeddwn i a'r Rybelwr Bach, fy mhartner yfed, allan yn yr ardd tan wedi hanner nos, yn rhoi'r byd yn ei le, dros gwrw oer a chreision. Hei lwc y bydd mwy o nosweithiau felly o'n blaenau.

Gweld bod llyfr newydd Sian James (Tant) yn cynnwys alaw delyn 'Blodau Ffestiniog'. Newydd sbon i mi... gwrandwch ar soundcloud.



Pabis coch wedi blodeuo erbyn hyn ac yn werth u gweld.




4 comments:

  1. Anonymous17/6/13 09:37

    Lle mae Maentwrog Uchaf, Willias? Gellilydan wyt ti'n feddwl?

    Dydi Tomen y Mur ddim yn Maentwrog Uchaf nac yng Ngellilydan.
    Mae Tomen y Mur yn Nhrawsfynydd.

    Mwynhau dy flog.

    Emrys.

    ReplyDelete
  2. Anonymous17/6/13 21:30

    Drwg iawn gen i Emrys, Wilias, y blogiwr sy'n gywir. Ym mhlwy' Maentwrog mae Tomen y Mur, coelia fi, nid yn Nhrawsfynydd. Yn ôl i'r dosbarth daearyddiaeth â thi!!

    VPW

    ReplyDelete
  3. Anonymous17/6/13 23:25

    Iawn, Dad, ond yn Traws oedd o gynta cyn i'r blydi petha Maentwrog 'na 'i ddwyn o am bod gennyn nhw 'im byd yn fanno 'blaw 'bus-stop' a pont.

    Emrys

    ReplyDelete
  4. Diolch i'r ddau ohonoch am eich sylwadau, sydd wedi codi nghalon i heno!
    O'n i'n meddwl 'mod i'n siarad efo fi fy hun ers talwm.
    Edrych ymlaen i glywed eto.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau