Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

24.4.25

Llyn Morwynion

Mae’r llechen yn gynnes ar fy nghefn wrth imi orweddian yn ddiog yn yr haul ar lan Llyn Morwynion. Ymhell uwch fy mhen yn yr awyr las, mae ceiliog ehedydd yn canu nerth ei ben. Smotyn bach tywyll yn parablu’n ddi-baid; yn ribidires o nodau hyfryd byrlymus.

O nghwmpas, yn bell ac agos, mae’r brithyll yn neidio a throi ar wyneb y llyn, a phâr o wyddau Canada yn chwythu nodau bas o’r Badall Fawnog ym mhen pella’r llyn. Daw lleisiau dau bysgotwr ar draws y dŵr yn achlysurol o ardal y Cwt Gwyddal, a sŵn y gwynt dan adenydd cigfran yn amlwg am ychydig eiliadau wrth hedfan hebio, ond heblaw am hynny mae’r lleoliad yn dawel. Yr union heddwch yr oeddwn wedi dod i’w ganfod. Digon pell o dwrw ymwelwyr y Pasg, i lawr yn y trefi a’r atyniadau amlwg. Lle i ddianc iddo am orig.

Yna, cynnwrf! Aderyn diarth yn cylchu uwchben y dŵr dwfn, du ynganol y llyn. Gwalch y pysgod! Er bod yr adar yma wedi magu bri a sylw rhyfeddol wrth ddychwelyd i Gymru i fagu yn 2004, ac wedi eu gweld yn aml yn lleol, dyma’r tro cyntaf i mi weld un yn Llyn Morwynion. 

Mwya’ sydyn, mae’n plymio, a tharo’r dŵr yn flêr a thrwsgl: ‘belly-flop’ fel yr oeddem yn arfer ddweud wrth dynnu coes ffrindiau oedd yn deifio’n llai gosgeiddig i bwll nofio neu lyn lleol yn ein plentyndod. Wrth godi ‘nôl o’r dŵr, daw’n amlwg na ddaliodd o bysgodyn y tro hwn, ac mae’n hedfan i glwydo am ennyd ar un o greigiau’r Drum. Ymhen hir, mae’n codi o’i glwydfan a hedfan am y llyn eto. Mae’n ymddangos fod yr amodau’n berffaith iddo ddal gan fod y pysgod mor brysur yn hela pryfetach ar wyneb y dŵr, ond mae’r gwalch wedi pwdu, ac ar ôl un cylchdro diog, yn hedfan dros y grib ac heibio cefn y Garnedd, mwy na thebyg yn anelu at Lynnau Gamallt i drïo’i lwc yn fanno.

Cronfa ddŵr ar gyfer Stiniog ydi Llyn ‘Morynion’ (i roi iddo’i ynganiad lleol). Llyn naturiol a wnaed yn fwy wrth i’r boblogaeth dyfu yn sgîl twf y diwydiant llechi, a llyn sy’n gysylltiedig â dwy chwedl sydd wedi ceisio egluro’r enw. Dyma fro Blodeuwedd; ardal sy’n frith o enwau o bedwaredd gainc y Mabinogi, fel Afon Cynfal, Llech Ronw, Bryn Cyfergyd, Tomen y Mur, ac ati. Yn y llyn yma boddwyd morwynion Blodeuwedd wrth ddianc rhag dialedd Gwydion a Lleu. Dyma hefyd ardal Beddau Gwŷr Ardudwy. Yr hanes honedig yn yr achos yma ydi i lanciau Ardudwy deithio i Ddyffryn Clwyd i hudo merched yn ôl efo nhw dros y mynydd, ond i fechgyn Clwyd eu dilyn a’u lladd ar y Migneint, ac mi foddodd y morwynion eu hunain yn eu galar.

Un arall o adar mudol ucheldir Cymru ydi tinwen y garn, ac mae plu trawiadol y ceiliog yn dwyn fy sylw wrth imi gychwyn am adra; y rhesen ddu am ei lygaid, a’i dîn gwyn yn amlwg iawn wrth hedfan i ffwrdd. Mae ceiliog clochdar y cerrig yn codi twrw i warchod ei diriogaeth ger y llwybr, a finnau’n gwneud fy ngorau glas i fynd heibio’n ddi-stŵr a chyflym; ac yn gefndir i’r cwbl mae’r gog yn taro’i ddau nodyn yn glir a chroyw i goroni pnawn dymunol iawn.

Roeddwn wedi clywed y gog am y tro cyntaf eleni -ychydig yn gynt na’r arfer- ar yr 11eg o Ebrill, wrth fynd efo Cymdeithas Archeolegol Bro Ffestiniog i baratoi’r safle cloddio yng Nghwmbowydd am dymor arall o chwilota, a neb ohonom wedi bod yn ddigon trefnus i ofalu bod newid mân yn ein pocedi i’w droi am lwc!

A hithau’n dymor yr wyau Pasg, y newyddion o’r blwch nythu sydd yn yr ardd acw, ydi bod erbyn hyn 12 o wyau gan y titws tomos las. Mae’r iâr yn gori am gyfnodau hir ar hyn o bryd, a’r ceiliog yn cludo bwyd iddi hi. Rydw i’n gwylio’r camera fel barcud bob dydd... mi gewch fwy o’r hanes y tro nesa!

 

ehedydd -skylark
brithyll -trout
gwydd Canada -Canada goose
cigfran -raven
gwalch y pysgod -osprey
tinwen y garn -wheatear
clochdar y cerrig -stonechat
cog -cuckoo
titw tomos las -blue tit
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 24 Ebrill 2025


3.4.25

Edrych ymlaen

Ganol y bore ar Ddydd Gŵyl Dewi daeth ping ar y ffôn i’m hysbysu -am y tro cynta’ eleni- fod rhywbeth yn symud yn y blwch nythu yn yr ardd. Titw tomos las (blue tit, Parus caeruleus) oedd o, ac mi fu’n mynd a dod trwy’r dydd. Mi gofiwch efallai, imi osod blwch newydd efo camera yma ddechrau 2024, a bod titws wedi dod iddo yn y gwanwyn, ond ar ôl hanner adeiladu nyth, troi eu cefnau a diflannu.

Mae gweithgaredd y titws yn rhyfedd eto eleni hyd yma! Mae dau wedi bod yma ambell ddiwrnod a’r peth cyntaf wnaethon nhw oedd gwagio’r blwch. Cario bob blewyn o’r mwsog a’r gwair oedd wedi ffurfio hanner nyth y llynedd allan. Am dair wythnos wedi hynny, maen nhw wedi hedfan i’r bocs sawl gwaith y dydd, pigo’r pren efo’u pig, a sgubo’r llawr efo’u hadenydd mewn rhyw fath o ddawns ddefodol.

Ar Ddydd Sul olaf mis Mawrth, wrth i mi sgwennu hwn, maen nhw o’r diwedd wedi dechrau dod a ‘chydig o fwsog i mewn, ond wedi treulio’r diwrnod yn ei symud a’i ail-drefnu hyd syrffed! Mis fuon nhw wrthi y llynedd cyn gadael heb nythu, ac mae hi bellach bron yn fis ar ymdrechion eleni, felly gawn ni weld be ddaw y tro hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i ddilyn eu hynt, ac mi fyddaf yn siwr o rannu’r diweddaraf efo chi.

Mi gafwyd un ymwelydd arall y llynedd. Am funud neu ddau ar y cyntaf o Fehefin bu cacynen y coed (tree bumblebee, Bombus hypnorum) yn y blwch, ac mi fyddai croeso llawn mor gynnes wedi bod iddi hi sefydlu nyth yno. Gwaetha’r modd, wnaeth hithau ddim aros.

Mae hanes y math yma o gacynen yn ddifyr iawn: doedden nhw ddim i’w gweld yng ngwledydd Prydain tan 2001, ond ar ôl cyrraedd o’r cyfandir, wedi dod yn gyffredin iawn ac ymledu i’r gogledd, gan fagu yn yr Alban erbyn hyn. Tyllau mewn coed ydi eu cynefin nythu yn draddodiadol, ond maen nhw’n fodlon iawn hawlio’u lle mewn blwch nythu adar hefyd. Mae’n hyfryd eu cael yn yr ardd yma.

Rydw i wedi cyfeirio yn y gorffennol at y diffyg coed aethnen (aspen, Populus tremula) mewn cwm sy’n dwyn enw’r goeden, rhwng Rhos-y-gwaliau a’r Berwyn, sef Cwm-yr-aethnen. 

Yn ddiweddar mi fues i mewn gweithdy hynod ddifyr yn edrych ar ddyfodol y goeden hon yn Eryri, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, efo arbenigedd gan gwmni ecolegol Wild Resources o ardal Bangor. Mae’n debyg bod coedwigoedd aethnen yn ucheldir a gorlifdiroedd Cymru ar un adeg, ond am nifer o resymau wedi mynd yn brin iawn fel coeden gynhenid. 

Ers diwedd yr oes iâ ddwytha mae pobl wedi clirio tiroedd a thorri coed ar gyfer adeiladu a thanwydd ac ati, ac wedi cadw anifeiliaid ar y tir hwnnw wedyn. Planhigyn deuoecaidd ydi’r aethnen -hynny ydi mae pob un yn cynhyrchu cynffonau ŵyn bach sydd unai yn wrywaidd neu’n fenywaidd, yn wahanol i’r gollen (hazel, Corylus avellana) er enghraifft, lle mae’r blodau o’r ddau ryw ar yr un gangen. Ac fel y gollen, gwynt sy’n peillio’r aethnen, felly’n allweddol fod coed gwrywaidd a choed benywaidd yn tyfu o fewn cyrraedd i’w gilydd! Ar ben hyn tydyn nhw ddim yn cynhyrchu paill yn rheolaidd; gall fod rhwng 10 mlynedd a chwarter canrif rhwng blodeuo! 

Mae’r coed sydd ar ôl bron i gyd yn goed unig, ar glogwyni, yn eithaf pell o’r nesa’ ac yn anffodus, mae’n flasus iawn i ddefaid, geifr a cheirw, y rhisgl a’i sudd yn felys, felly rhwng bob dim, mae bron yn amhosib cael amodau ffafriol ar gyfer poblogaeth ffyniannus fydd yn cynnal ei hun efo hadau a choed ifanc bob cenhedlaeth. 

Er y gwendidau amlwg mae rhinweddau iddi hefyd- mae’n tyfu bob cam i lawr i wres Gwlad Groeg, felly gall ddygymod â’r cynhesu ddaw efo newid hinsawdd yng Nghymru. Hefyd, mae’n atgynhyrchu’n weddol rwydd o doriadau gwraidd, felly yn dilyn llwyddiant cynnar yr Albanwyr yn eu hymdrechion i adfer yr aethnen yn fanno (gweler ‘Painting Scotland Yellow’ ar y we), y gobaith ydi medru tyfu digon o goed newydd i’w plannu mewn llefydd fel Cwm yr Aethnen, a mwynhau ei lliw euraidd hardd eto bob hydref. Rhywbeth arall i edrych ymlaen ato. Gwyliwch y gofod!

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 3 Ebrill 2025 (Dan y bennawd 'Prysurdeb y Titws')