Pages

5.6.25

Crwydro'r Ochr Drew

Mi fues i’n hela llewod yn ddiweddar. 

Na, fues i ddim ar saffari; nac ar ymweliad â sŵ ‘chwaith. Chwilio oeddwn i am gerfluniau Pont Llanfair, neu Bont Britannia, dros Afon Menai. Y llewod carreg a anfarwolwyd yng ngherdd y Bardd Cocos fel hyn:

Pedwar llew tew
Heb ddim blew:
Dau’r ochr yma
A dau’r ochr drew!
Chwilio am lewod pen yma o'n i, ar y tir mawr. Mi gaiff llewod Môn aros am ymweliad rywbryd arall efallai (...ond wedi meddwl, un o Fôn oedd John Evans y bardd, felly ‘dau’r ochr drew’ ydi llewod ochr Bangor mae’n siwr yn’de!). 

Roedd Gerddi Botaneg Treborth yn cynnal bore agored a gwerthiant planhigion ddiwedd mis Mai, a gan fod Llwybr Arfordir Cymru o fewn tafliad carreg, mi dreuliais fore difyr iawn yn crwydro ar lan y Fenai. Mae tri neu bedwar llwybr yn ymuno efo’r llwybr arfordir swyddogol o’r gerddi, ond gan fod giât meysydd chwaraeon Prifysgol Bangor yn agored, dyma fentro trwy fanno. Gwell gen i gerdded mewn cylch os oes cyfle, yn hytrach na thaith yno-a-nôl ar hyd yr un llwybr, ond mantais arall cael crwydro caeau pêl-droed ac athlethau, ydi fod amrywiaeth ddifyr yn aml o laswelltir o wahanol hyd, ac felly’n llefydd da ar gyfer pryfetach a phlanhigion gwyllt ar hyd yr ymylon.

Yn anffodus roedd hi’n pigo bwrw a’r gloynnod byw a’r gwenyn yn brin iawn y bore hwnnw, a’r gwair hir yn rhy wlyb i grwydro i’w ganol i chwilio am flodau gwyllt. Maddeuwch i mi am fod yn naturiaethwr tywydd teg o dro i dro: roedd digon o bethau eraill i dynnu’r sylw yno heb imi wlychu!

O groesi’r cae rygbi/pêl-droed Americanaidd ar waelod pellaf tir y brifysgol, gallwch ddilyn llwybr ar eich pen i’r coed ar gyrion yr A55 swnllyd, a chanfod eich hun o dan anghenfil goncrid a dur y bont ddau lawr a godwyd yn y saithdegau ar ôl i dân ddifrodi pont wreiddiol Stephenson. Gosodwyd y llewod ar lwyfannau cerrig bob ochr i strwythur gwreiddiol y bont, ond heddiw welwch chi mohonyn nhw wrth deithio mewn car dros y Fenai, dim ond o ffenest y trên ar lawr isaf y bont.


Ar droed, y llew ar ochr y Faenol sydd hawddaf ei gyrraedd gan fod llwybr gwell ato trwy’r coed a’r eiddew a’r mieri sydd yno. Yn anffodus mae ffens ddiogelwch y rheilffordd yn rhwystr braidd wrth dynnu llun, ond mae’n werth ymweliad sydyn, er ei bod yn chwith nad oes neb yn gweld gwerth mewn annog y cyhoedd i fynd i edmygu’r llewod a rhoi panel efo ‘chydig o wybodaeth yno, o ystyried mor agos at Lwybr yr Arfordir y maen nhw.

O droi yn ôl o dan Bont Llanfair ac anelu am Bont y Borth, mi ydych yn cerdded llwybr braf, llydan a gwastad, trwy Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Coedydd Afon Menai; coedwig sydd wedi dod yn gartref i wiwerod coch ers tua 2009 ar ôl absenoldeb hir. Braf gweld fod llawer o waith ar y gweill yma i reoli planhigion ymledol fel y Rhododendron, coed llawryf (laurel. Prunus) ac ambell goeden gonwydd.  

O ddilyn un o’r llwybrau sy’n dringo allan o’r coed i’r gerddi botaneg, rydych yn dod i olau dydd ac awyr agored: dolydd blodau gwylltion lliwgar, gwelyau addurnol a chasgliadau arbennig o blanhigion. 


Mae’r Ardd Tsieinïaidd wedi’i helaethu ers i mi fod ddwytha’, i fod yn Ardd y Ddwy Ddraig, lle mae Meddygon Myddfai yn cael sylw yng Ngardd Berlysiau Cymru, a’r gwaith cerrig yn ei hardal eistedd yn werth ei weld hefyd. 

 

Gallwn dreulio oriau -ar ddiwrnod braf- yn gwylio’r gweision neidr yn y pyllau a’r pili palas ar flodau’r gwely gloynnod a’r border hir, ac yn edmygu’r planhigion alpaidd yn yr ardd greigiau, ond pan mae’n bwrw glaw, mae’r tai gwydr yn wych hefyd. Mae’r gerddi ar agor i bawb a’r mynediad am ddim, ond rhaid gwylio cyfryngau cymdeithasol Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth am ddyddiau pan mae’r tai gwydr yn agored.

Roedd cryn fwrlwm yn yr arwerthiant blanhigion, ond gan fy mod wedi treulio cymaint o amser yn crwydro, erbyn i mi gyrraedd yno, doedd fawr o blanhigion ar ôl. Bydd raid dychwelyd eto i’r nesa’felly!

Y newyddion o’r blwch nythu adra, ydi fod deg cyw titw tomos las wedi hedfan ar yr 20fed o Fai. Roedd deg yno am wyth y bore, ac erbyn 3 y pnawn roedd yr olaf wedi mynd, a gwaelod yr ardd yn ddistaw unwaith eto. Bu’n fraint cael gwylio’u datblygiad, cyn hedfan i ganfod eu lle yn y byd mawr.

Paratewch... Barod... Ewch!

- - - - - - - 


Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 5 Mehefin 2025 (Dan y bennawd 'Llewod ar y Fenai')

 - - - - - - -

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn cynnal ymchwil a gwaith cadwraeth hefyd. 

Mi fum yn cydweithio efo nhw i dyfu coed llwyf ar gyfer achub cen prin iawn ym Meirionnydd. 

Ychydig o'r hanes yn fan hyn

 

15.5.25

Tywydd Titw Tomos

Er bod coed helyg ifanc yn boen blynyddol i’w chwynnu yn yr ardd ‘cw, dwi’n canfod fy hun eto yn synfyfyrio mewn lluwch di-ddiwedd o hadau pluog; yr awyr las yn llawn blewiach gwyn. Pob gwe pry’ cop yn llen o gotwm, a miliynau o’r cneifion mân wedi glynu at ddail a bonion, dodrefn a chelfi yr ardd. 

Bydd raid codi cannoedd o egin-goed helyg -o bob gwely, pot, twll, a chornel- rhwng rwan a lluwch hadau’r gwanwyn nesa, ond mae’n anodd iawn peidio edmygu’r esblygiad sydd wedi rhoi modd mor effeithiol i’r helygen wasgaru ei had yn bell ar yr awel ysgafnaf.

Wyau; gorsaf dywydd; hadau helyg ar wyneb pwll; bwydo'r cywion

O’r llwyn gerllaw, mae llwyd y gwrych yn canu ei hochr hi, a rhywle yn y coed helyg heibio pendraw’r ardd, telor benddu’n seinio’n hyfryd iawn hefyd, y ddau yr un mor gerddorol ond bod penillion y benddu yn hirach ac mae’n taflu’r llais yn well. Un arall sy’n canu ar eu traws nhw heb falio dim am diwn na thempo, ydi’r siff-saff; mae cân hwnnw’n hawdd iawn i’w ‘nabod wrth iddo ailadrodd ei enw ei hun, ond mae’r ddau arall yn her bob blwyddyn i adnabod p’un ydi p’run.

Daw titw tomos las ar frys o rywle, yn dwrdio ‘mod i’n hawlio lle yn ei ofod o! Wedi dychwelyd mae o efo cropiad o lindys ar gyfer ciwed o gywion yn y blwch nythu ar wal y cwt. Mi gofiwch efallai i mi son dair wythnos yn ôl fod 12 ŵy yn y nyth, ac mi fues i’n gwylio’r camera’n selog ers hynny.

Roedd y cyw cyntaf wedi deor tua 3 y pnawn ar ddiwrnod olaf Ebrill, a’r ail oddeutu 20 munud ar ôl hynny. Dyna ddiwrnod cofiadwy am resymau eraill hefyd: cododd y tymheredd i dros 20°C am 8:20 y bore! Diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yma, yn 26.7°C rhwng deori’r ddau gyw. Bu’n aruthrol o braf trwy’r dydd, a wnaeth y tymheredd ddim disgyn o dan 20 gradd tan tua wyth y nos, a bryd hynny roeddwn yn sefyll yn rhyfeddu yng ngwaelod yr ardd eto, y tro hwn at ffrwydriad anferthol o bryfaid.

Meddyliais i ddechrau mae gwybed bach oedd y cwmwl tywyll oedd yn troelli dros Afon Bowydd, nes gweld mae pryfed gwyrddion oedden nhw- y diawled bach ar eu ffordd i sugno’r bywyd allan o ddail ein coed ffrwythau! Eto, rhaid edmygu cylch bywyd y creaduriaid bach yma; swmp anferthol yr haid, a maint dirifedi eu llu.

Diwrnod nodedig, mewn tymor hynod iawn. Gorsaf dywydd ‘hobi’ sydd gen’ i yma, yn hytrach nag un broffesiynol gant-y-cant fanwl-gywir, ond mae wedi rhoi pleser heb ei ail i mi wrth ddilyn hynt y tywydd eleni.

Ddydd Llun, roedd y swyddfa dywydd wedi gosod rhybudd melyn dros Gymru, a’n harwain i ddisgwyl glaw trwm. Hynny ar ôl 14 diwrnod heb ddiferyn o law... ia, ym Mlaenau Ffestiniog hefyd! Ym misoedd Mawrth, Ebrill, a Mai hyd yma, bu cyfanswm o 42 diwrnod heb unrhyw law o gwbl, a nifer o ddyddiau eraill efo llai nag 1mm o law. Gwanwyn diarth iawn. A diolch amdano!

Ben bore Llun roedd llond gwniadur wedi disgyn ond prin wedi gwlychu’r llechi. Roedd y gwres wedi codi’n raddol wedyn trwy’r dydd, nes daeth newid sydyn am 4:45, pryd aeth y tymheredd o 25 gradd i lawr i 16 mewn chwarter awr. Daeth hynny law-yn-llaw efo cynnydd yn y gwasgedd ac ychydig o wynt. Ambell daran, ac yna glaw. Ychydig iawn fel mae’n troi allan. Bwrw am llai na 10 munud wnaeth hi yn y diwedd, a’r cwbl gafwyd oedd 2.31mm. 

Roedd yn wych profi’r petricor: arogl pridd ar ôl glaw hafaidd, ond ddaeth y glaw mawr ddim. Be fydden ni’n wneud heb gael swnian am y tywydd dwad? Mae’r titws yn gwneud y gorau o’r amodau beth bynnag.

Erbyn hyn mae 9 o gywion yn y nyth, wedi dechrau magu plu glas a melyn ac yn dringo dros eu gilydd i gael sylw’r oedolion sy’n dychwelyd bob 4 munud ar hyn o bryd, i roi bwyd yn eu pigau llydan melyn a choch. Efallai y gwnân nhw dolc yn y boblogaeth pryfed gwyrdd!

helyg- willow
troed y golomen- aquilegia
llwyd y gwrych- dunnock
telor benddu- blackcap
titw tomos las- bluetit
pryf gwyrdd- greenfly
gwybedyn bach- midge

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 15 Mai 2025 (Dan y bennawd 'Gwanwyn yn dod')

Lluniau mwy diweddar:

Wedi magu plu yn gyflym iawn yn y tridiau ers i mi sgwennu'r darn uchod

 
Nos da, Mam!

24.4.25

Llyn Morwynion

Mae’r llechen yn gynnes ar fy nghefn wrth imi orweddian yn ddiog yn yr haul ar lan Llyn Morwynion. Ymhell uwch fy mhen yn yr awyr las, mae ceiliog ehedydd yn canu nerth ei ben. Smotyn bach tywyll yn parablu’n ddi-baid; yn ribidires o nodau hyfryd byrlymus.

O nghwmpas, yn bell ac agos, mae’r brithyll yn neidio a throi ar wyneb y llyn, a phâr o wyddau Canada yn chwythu nodau bas o’r Badall Fawnog ym mhen pella’r llyn. Daw lleisiau dau bysgotwr ar draws y dŵr yn achlysurol o ardal y Cwt Gwyddal, a sŵn y gwynt dan adenydd cigfran yn amlwg am ychydig eiliadau wrth hedfan hebio, ond heblaw am hynny mae’r lleoliad yn dawel. Yr union heddwch yr oeddwn wedi dod i’w ganfod. Digon pell o dwrw ymwelwyr y Pasg, i lawr yn y trefi a’r atyniadau amlwg. Lle i ddianc iddo am orig.

Yna, cynnwrf! Aderyn diarth yn cylchu uwchben y dŵr dwfn, du ynganol y llyn. Gwalch y pysgod! Er bod yr adar yma wedi magu bri a sylw rhyfeddol wrth ddychwelyd i Gymru i fagu yn 2004, ac wedi eu gweld yn aml yn lleol, dyma’r tro cyntaf i mi weld un yn Llyn Morwynion. 

Mwya’ sydyn, mae’n plymio, a tharo’r dŵr yn flêr a thrwsgl: ‘belly-flop’ fel yr oeddem yn arfer ddweud wrth dynnu coes ffrindiau oedd yn deifio’n llai gosgeiddig i bwll nofio neu lyn lleol yn ein plentyndod. Wrth godi ‘nôl o’r dŵr, daw’n amlwg na ddaliodd o bysgodyn y tro hwn, ac mae’n hedfan i glwydo am ennyd ar un o greigiau’r Drum. Ymhen hir, mae’n codi o’i glwydfan a hedfan am y llyn eto. Mae’n ymddangos fod yr amodau’n berffaith iddo ddal gan fod y pysgod mor brysur yn hela pryfetach ar wyneb y dŵr, ond mae’r gwalch wedi pwdu, ac ar ôl un cylchdro diog, yn hedfan dros y grib ac heibio cefn y Garnedd, mwy na thebyg yn anelu at Lynnau Gamallt i drïo’i lwc yn fanno.

Cronfa ddŵr ar gyfer Stiniog ydi Llyn ‘Morynion’ (i roi iddo’i ynganiad lleol). Llyn naturiol a wnaed yn fwy wrth i’r boblogaeth dyfu yn sgîl twf y diwydiant llechi, a llyn sy’n gysylltiedig â dwy chwedl sydd wedi ceisio egluro’r enw. Dyma fro Blodeuwedd; ardal sy’n frith o enwau o bedwaredd gainc y Mabinogi, fel Afon Cynfal, Llech Ronw, Bryn Cyfergyd, Tomen y Mur, ac ati. Yn y llyn yma boddwyd morwynion Blodeuwedd wrth ddianc rhag dialedd Gwydion a Lleu. Dyma hefyd ardal Beddau Gwŷr Ardudwy. Yr hanes honedig yn yr achos yma ydi i lanciau Ardudwy deithio i Ddyffryn Clwyd i hudo merched yn ôl efo nhw dros y mynydd, ond i fechgyn Clwyd eu dilyn a’u lladd ar y Migneint, ac mi foddodd y morwynion eu hunain yn eu galar.

Un arall o adar mudol ucheldir Cymru ydi tinwen y garn, ac mae plu trawiadol y ceiliog yn dwyn fy sylw wrth imi gychwyn am adra; y rhesen ddu am ei lygaid, a’i dîn gwyn yn amlwg iawn wrth hedfan i ffwrdd. Mae ceiliog clochdar y cerrig yn codi twrw i warchod ei diriogaeth ger y llwybr, a finnau’n gwneud fy ngorau glas i fynd heibio’n ddi-stŵr a chyflym; ac yn gefndir i’r cwbl mae’r gog yn taro’i ddau nodyn yn glir a chroyw i goroni pnawn dymunol iawn.

Roeddwn wedi clywed y gog am y tro cyntaf eleni -ychydig yn gynt na’r arfer- ar yr 11eg o Ebrill, wrth fynd efo Cymdeithas Archeolegol Bro Ffestiniog i baratoi’r safle cloddio yng Nghwmbowydd am dymor arall o chwilota, a neb ohonom wedi bod yn ddigon trefnus i ofalu bod newid mân yn ein pocedi i’w droi am lwc!

A hithau’n dymor yr wyau Pasg, y newyddion o’r blwch nythu sydd yn yr ardd acw, ydi bod erbyn hyn 12 o wyau gan y titws tomos las. Mae’r iâr yn gori am gyfnodau hir ar hyn o bryd, a’r ceiliog yn cludo bwyd iddi hi. Rydw i’n gwylio’r camera fel barcud bob dydd... mi gewch fwy o’r hanes y tro nesa!

 

ehedydd -skylark
brithyll -trout
gwydd Canada -Canada goose
cigfran -raven
gwalch y pysgod -osprey
tinwen y garn -wheatear
clochdar y cerrig -stonechat
cog -cuckoo
titw tomos las -blue tit
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 24 Ebrill 2025


3.4.25

Edrych ymlaen

Ganol y bore ar Ddydd Gŵyl Dewi daeth ping ar y ffôn i’m hysbysu -am y tro cynta’ eleni- fod rhywbeth yn symud yn y blwch nythu yn yr ardd. Titw tomos las (blue tit, Parus caeruleus) oedd o, ac mi fu’n mynd a dod trwy’r dydd. Mi gofiwch efallai, imi osod blwch newydd efo camera yma ddechrau 2024, a bod titws wedi dod iddo yn y gwanwyn, ond ar ôl hanner adeiladu nyth, troi eu cefnau a diflannu.

Mae gweithgaredd y titws yn rhyfedd eto eleni hyd yma! Mae dau wedi bod yma ambell ddiwrnod a’r peth cyntaf wnaethon nhw oedd gwagio’r blwch. Cario bob blewyn o’r mwsog a’r gwair oedd wedi ffurfio hanner nyth y llynedd allan. Am dair wythnos wedi hynny, maen nhw wedi hedfan i’r bocs sawl gwaith y dydd, pigo’r pren efo’u pig, a sgubo’r llawr efo’u hadenydd mewn rhyw fath o ddawns ddefodol.

Ar Ddydd Sul olaf mis Mawrth, wrth i mi sgwennu hwn, maen nhw o’r diwedd wedi dechrau dod a ‘chydig o fwsog i mewn, ond wedi treulio’r diwrnod yn ei symud a’i ail-drefnu hyd syrffed! Mis fuon nhw wrthi y llynedd cyn gadael heb nythu, ac mae hi bellach bron yn fis ar ymdrechion eleni, felly gawn ni weld be ddaw y tro hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i ddilyn eu hynt, ac mi fyddaf yn siwr o rannu’r diweddaraf efo chi.

Mi gafwyd un ymwelydd arall y llynedd. Am funud neu ddau ar y cyntaf o Fehefin bu cacynen y coed (tree bumblebee, Bombus hypnorum) yn y blwch, ac mi fyddai croeso llawn mor gynnes wedi bod iddi hi sefydlu nyth yno. Gwaetha’r modd, wnaeth hithau ddim aros.

Mae hanes y math yma o gacynen yn ddifyr iawn: doedden nhw ddim i’w gweld yng ngwledydd Prydain tan 2001, ond ar ôl cyrraedd o’r cyfandir, wedi dod yn gyffredin iawn ac ymledu i’r gogledd, gan fagu yn yr Alban erbyn hyn. Tyllau mewn coed ydi eu cynefin nythu yn draddodiadol, ond maen nhw’n fodlon iawn hawlio’u lle mewn blwch nythu adar hefyd. Mae’n hyfryd eu cael yn yr ardd yma.

Rydw i wedi cyfeirio yn y gorffennol at y diffyg coed aethnen (aspen, Populus tremula) mewn cwm sy’n dwyn enw’r goeden, rhwng Rhos-y-gwaliau a’r Berwyn, sef Cwm-yr-aethnen. 

Yn ddiweddar mi fues i mewn gweithdy hynod ddifyr yn edrych ar ddyfodol y goeden hon yn Eryri, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, efo arbenigedd gan gwmni ecolegol Wild Resources o ardal Bangor. Mae’n debyg bod coedwigoedd aethnen yn ucheldir a gorlifdiroedd Cymru ar un adeg, ond am nifer o resymau wedi mynd yn brin iawn fel coeden gynhenid. 

Ers diwedd yr oes iâ ddwytha mae pobl wedi clirio tiroedd a thorri coed ar gyfer adeiladu a thanwydd ac ati, ac wedi cadw anifeiliaid ar y tir hwnnw wedyn. Planhigyn deuoecaidd ydi’r aethnen -hynny ydi mae pob un yn cynhyrchu cynffonau ŵyn bach sydd unai yn wrywaidd neu’n fenywaidd, yn wahanol i’r gollen (hazel, Corylus avellana) er enghraifft, lle mae’r blodau o’r ddau ryw ar yr un gangen. Ac fel y gollen, gwynt sy’n peillio’r aethnen, felly’n allweddol fod coed gwrywaidd a choed benywaidd yn tyfu o fewn cyrraedd i’w gilydd! Ar ben hyn tydyn nhw ddim yn cynhyrchu paill yn rheolaidd; gall fod rhwng 10 mlynedd a chwarter canrif rhwng blodeuo! 

Mae’r coed sydd ar ôl bron i gyd yn goed unig, ar glogwyni, yn eithaf pell o’r nesa’ ac yn anffodus, mae’n flasus iawn i ddefaid, geifr a cheirw, y rhisgl a’i sudd yn felys, felly rhwng bob dim, mae bron yn amhosib cael amodau ffafriol ar gyfer poblogaeth ffyniannus fydd yn cynnal ei hun efo hadau a choed ifanc bob cenhedlaeth. 

Er y gwendidau amlwg mae rhinweddau iddi hefyd- mae’n tyfu bob cam i lawr i wres Gwlad Groeg, felly gall ddygymod â’r cynhesu ddaw efo newid hinsawdd yng Nghymru. Hefyd, mae’n atgynhyrchu’n weddol rwydd o doriadau gwraidd, felly yn dilyn llwyddiant cynnar yr Albanwyr yn eu hymdrechion i adfer yr aethnen yn fanno (gweler ‘Painting Scotland Yellow’ ar y we), y gobaith ydi medru tyfu digon o goed newydd i’w plannu mewn llefydd fel Cwm yr Aethnen, a mwynhau ei lliw euraidd hardd eto bob hydref. Rhywbeth arall i edrych ymlaen ato. Gwyliwch y gofod!

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 3 Ebrill 2025 (Dan y bennawd 'Prysurdeb y Titws')



13.3.25

Hel Afonydd

Rwy’n clywed afon o fy ngwely, a’i hwyliau’n amrywio efo’r tywydd a’r tymhorau. Llifa Afon Bowydd o fewn clyw i’r tŷ, yn ‘sŵn gwyn’ perffaith yn y cefndir wrth drïo cysgu. Ond yn rhuo’n ddwfn a dychrynllyd mewn glaw mawr, i’n hatgoffa o rym a rhyferthwy natur.

Gall sŵn y llif foddi cân y gylfinir, sy’n hedfan o’r arfordir i’r mynydd y mis yma. Un o seiniau hyfrytaf byd natur*; yn fy atgoffa o nosweithiau hwyliog plentyndod yn chwarae yn hwyr, nes i fam un ohonom weiddi o’r rhiniog ei bod yn amser hel am adra. Mae’n gân yr ydym yn ffodus iawn i’w chlywed o hyd yn yr ardal yma, er bod llai o adar erbyn hyn yn reit siwr. 

Pan ddaw’r ceiliog gog yn ei ôl i’r cae dan y tŷ yn ‘Ebrill a Mai a hanner Mehefin’, bydd twrw’r dŵr yn tarfu ar ein gallu i’w glywed eto, fel pob blwyddyn. Ond fedra’ i ddim beio llif eleni am gwynion llynedd: nid dŵr heddiw a’m swynodd i gysgu neithiwr ‘chwaith...

“Hon ydyw’r afon, ond nid hwn yw’r dŵr”, medd R. Williams Parry, yn chwarae ar eiriau Plato medden nhw, na fedri di gamu i’r un afon ddwywaith. Pan mae’r dŵr wedi llifo heibio: mae wedi mynd am byth. ‘Dŵr dan y bont’. Rhywbeth i’w anghofio... Mae hyn wedi troi yn fy mhen ers dyddiau ysgol. Sut bod nentydd yn rhedeg yn ddi-dor am filoedd o flynyddoedd? O le daw’r holl ddŵr? Ar y llaw arall, roedd ffrydiau dros-dro Craig Nyth y Gigfran mewn tywydd garw, fel hud a lledrith i mi a chylch dŵr y ddaear yn wyrthiol rhywsut. 

Sioe Tudur Owen ar y radio wnaeth imi feddwl am afonydd, pan ddywedwyd arni’n ddiweddar nad oes un afon ym Malta! Fues i erioed yno, ond rydw i wedi talu mwy o sylw, a gwerthfawrogi afonydd Cymru ar ôl clywed y drafodaeth.

Afon Ddwyryd yn rhuthro tua’r môr wrth i’r llanw droi ar fore Dydd Gŵyl Dewi. Ffrydiau a cheryntau yn chwyrlïo rhwng Ynys Gifftan a phentref Portmeirion, ninnau’n ddiogel ar y lan wedi’n cyfareddu am eiliad gan y rhyfeddod gwyllt yn yr aber. Gwych cael mwynhau’r mynediad am ddim yno i ddathlu’n nawddsant, a chael gwylio brenhines cacynen din-goch gynta’r flwyddyn ym mlodau cynnar y gerddi.

Ar lan Afon Morwynion ar gyrion Y Migneint, sefyll fel delw syfrdan i wylio carlwm yn ei gôt wen aeafol yn erlid llygoden trwy’r brwyn ddegllath i ffwrdd, yr heliwr bach chwim yn gwbl anymwybodol ein bod yn gwylio am funudau lawer. Mae’n sefyll allan yn ei ffwr gwyn oherwydd y diffyg eira, ond heb os yn uchafbwynt gwylio bywyd gwyllt y flwyddyn, hyd yma!

Ar ddiwrnod arall, astudio nant fechan ar warchodfa leol, a synnu at yr amrywiaeth o greaduriaid oedd i’w gweld yn y dŵr clir ers gwella cynefin y nant. Roedd y dŵr wedi’i gyfyngu i ffos gwbl syth ers cyn cof, o fawr ddim gwerth i bysgod na bywyd gwyllt yn gyffredinol, nes i feini a choed gael eu hychwanegu er mwyn igam-ogamu’r nant, a chyflymu’r dŵr fan hyn, a’i arafu fan draw; creu pyllau amrywiol, a dyfodol mwy disglair i’r safle.

Afon Conwy

Yn fwyaf diweddar crwydro glan Afon Conwy, a’r llanw ymhell allan gan adael erwau llydan o dywod a mwd gwlyb, yn disgleirio dan haul isel oedd yn ei gwneud hi’n anodd i adnabod rhai o’r adar yn y pellter ar lan y dŵr. Mae ffurfiau tywyll bilidowcars yn amlwg wrth ddal eu hadenydd ar led i sychu, a heidiau o biod môr yn codi digon o sŵn, ond fel arall, dim ond ambell bibydd coesgoch a gwylanod oedd yn amlwg.

Mae’r llwybr rhwng y Cob a Gwarchodfa Conwy yn agoriad llygad, efo olion y gwanwyn ymhell ar y blaen yno i gymharu ag adra. Y blodau a’r coed am y gorau i flaguro ac agor; i ddenu pryfed a gwenyn. Ambell löyn byw yn hedfan heibio, a siff-saff cynta’r flwyddyn yn canu’n frwd o’r llwyni i groesawu’r gwanwyn. Cyn gadael, mae crëyr bach yn glanio ar lan yr afon a’r awyr yn cochi yn y pellter. Daw’r llanw eto. Finnau hefyd.

gylfinir: curlew
cacynen din-goch: red-tailed bumblebee
carlwm: stoat
bilidowcar/mulfran: cormorant
pioden fôr: oystercatcher
pibydd coesgoch: redshank
siff-saff: chiffchaff
crëyr bach: little egret
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 13 Mawrth 2025 (dan y bennawd 'Casglu afonydd')

 

*Blogiad o 2013 Ffliwt Hyfrydlais 



21.2.25

Tyrchu

Mae twmpathau twrch daear yn amlwg iawn ar hyn o bryd. Mewn caeau; ar ffriddoedd; ac ymylon ffordd. Os oes unrhyw greadur yng Nghymru y mae pawb yn gwybod amdano, ac yn gyfarwydd efo’i olion, ond ychydig iawn wedi ei weld, dyma fo. Mamal dirgel sy’n byw dan ddaear, wedi addasu i fod mewn tywyllwch parhaol, bron. 

Dyma ran o’r hyn mae ‘Llyfr Natur Iolo’ (Iolo Williams a Bethan Wyn Jones. Carreg Gwalch 2007) yn ddweud amdano: “Cyffredin iawn yng Nghymru a Lloegr, ond absennol o Iwerddon a llawer o ynysoedd yr Alban. Mae’n gwneud gwaith pwysig trwy awyru’r pridd ond nid oes croeso iddo mewn gerddi.” Er bod rhywun yn clywed garddwyr yn brolio weithiau eu bod yn cario’r pridd adra i wella ansawdd y ddaear yn eu gerddi.

Amhoblogaidd ydyn nhw efo’r ffermwyr hefyd ar y cyfan, yn bennaf oherwydd yr ofn bod eu tocia pridd yn llygru cynhaeaf gwair neu silwair, ac yn bridd noeth i ysgall hadu iddo. Difyr bod ymchwil yn dangos eu bod yn fwy cyffredin mewn glaswelltir sydd wedi ei wrteithio a’i ‘wella’ yn amaethyddol, nac ydyn nhw mewn dolydd blodeuog hen ffasiwn, a hynny am fod y pridd yn gyfoethocach ac felly’n cynnal mwy o fwyd y twrch, sef pryfaid genwair. Rydw i’n gweld mwy o’u hôl rwan wrth fy ngwaith ar ambell warchodfa lle mae merlod wedi eu cyflwyno i bori, ac mae’n ymddangos fod tyrchod yn brysurach lle mae tail y merlod fwyaf amlwg. Pridd deniadol i bryfaid genwair yno mae’n debyg.

Gwahadden ydi’r enw safonol (mole, Talpa europaea) a gwadd yn enw arall, ond heb os twrch daear sydd fwyaf cyffredin yn fy milltir sgwâr i. Gweler y dudalen facebook ardderchog Cymuned Llên Natur am drafodaethau difyr ar arferion y creadur, yn ogystal ac am ei enwau amrywiol, ond hefyd enwau lleol am y twmpathau: priddwal a phriddwadd, twmpath neu docyn, er enghraifft).

Er yn llai cyffredin yn yr ucheldir, mae’r naturiaethwr Bill Condry -yn ei glasur o lyfr ‘The Natural History of Wales’ (Bloomsbury, 1981)- yn cyfeirio at gofnodion o dyrchod daear ddim yn bell o gopa Aran Fawddwy, ar uchder o 870 metr, a’u bod yn medru teithio cryn bellter ar wyneb y tir i gyrraedd ardal newydd. Credaf mae llethrau glaswelltog Cwm Cau ar Gadair Idris ydi’r uchaf i mi eu gweld.
Gall y twrch hel dwsinau o bryfaid genwair (mwydyn/llyngyr daear, earthworm), a’u parlysu efo poer gwenwynig, er mwyn eu cadw’n fyw fel storfa fwyd. Mi ges innau frathiad pan oeddwn yn blentyn.  

Codi twrch o’r llawr ar fy ffordd i’r ysgol wnes i, gan feddwl gwneud cymwynas o’i symud o’r palmant lle gwelais i o, i lecyn mwy addas. Ond ches i ddim diolch gan y cythraul bach; dim ond tyllau dannedd bychain a phoenus yn y croen meddal rhwng fy mawd a’r bys blaen! 

Rheswm arall nad oedd gen i fawr o amynedd efo tyrchod am gyfnod pan oeddwn yn iau, oedd gorfod aros am fy nhad pan oeddem ni’n crwydro llwybrau yn lleol a thu hwnt: roedd o’n mynnu chwilota (hyd syrffed i mi) yn y tocia pridd am olion archeolegol! Fel chwilio am y nodwydd ystrydebol mewn tas wair...  

Ond dyna’n union ydw i’n wneud heddiw, gan weld gwerth a diddordeb mawr mewn hanes lleol ac archeoleg! Cofiaf ei gyffro wrth son am rywun yn canfod blaen saeth mewn twmpath twrch, ddim yn bell o’n bro ni, ac yn wir, gwelais mewn cylchgrawn neu stori bapur newydd flynyddoedd wedyn, am English Heritage, y corff sy’n gofalu am safleoedd hanesyddol dros y ffin, yn defnyddio criwiau mawr o wirfoddolwyr ar safle Rufeinig, i chwilio a chwalu trwy bridd tyrchod am dystiolaeth, heb orfod cloddio yno. Tyrchu o fath gwahanol! Canfuwyd crochenwaith a mwclis, hoelion a gwydr, ac arteffactau eraill.

O chwilio ar y we, mae’n hawdd canfod engreifftiau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill yn gwneud rhywbeth tebyg; ac mae ysgolion mewn ambell ardal wedi cymryd y cyfle i chwilio yn y dull yma, fel ffordd syml a rhad o drafod ecoleg a hanes yr un pryd. 

Oni fyddai’n rhoi gwefr rhyfeddol i gael blaen saeth o oes y cerrig, neu hen geiniog, dim ond o roi cic sydyn i dwmpath o bridd? Daliwn i gredu!

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 20 Chwefror 2025 (dan y bennawd 'Byw dan y ddaear')


30.1.25

Gofyn Tamaid Heb Un Geiniog

Mae gen’ i ffrind newydd. 

Dim ond am bum munud oeddwn wedi bod yn cloddio pan ddaeth robin goch i lan y twll, a dal pryf genwair o dan fy nhrwyn yn gwbl ddigywilydd! Mae’n rhaid fod ganddyn nhw synnwyr arbennig am bridd noeth, ac yn gwybod yn iawn fod cyfle am damaid o fwyd.

Llun gan Francis C. Franklin / CC-BY-SA-3.0

Naw mlynedd ar ôl torri ‘nghalon efo’r amodau ar y safle rhandiroedd lleol a rhoi’r ffidil yn y to; mae rhywbeth wedi drod drosta’i mae’n rhaid, oherwydd rydw i wedi cymryd plot yno eto. Ac o, mam bach, mae’r lle yn ddigalon o wlyb! 

Yno i agor ffos oeddwn i, er mwyn trïo sychu rhywfaint ar y ddaear, ac mi ges i gwmpeini’r hen robin annwyl drwy’r pnawn. Roedd yn amlwg wedi hen gynefino efo cwmpeini pobl ar safle’r rhandiroedd, ac yn hollol ddi-ofn wrth sboncio o gwmpas fy nhraed wrth imi dyllu, ac i mewn ac allan o’r ffos gul yn chwilio am damaid. Mae’r berthynas rhwng y robin goch a phobol yn hen iawn; wedi dysgu bod pobl sy’n gweithio’r tir yn werth eu dilyn er mwyn cael bwyd. Credir eu bod wedi dysgu dilyn moch gwyllt ac anifeiliaid eraill cyn hynny, er mwyn chwilota yn y pridd maen nhwythau wedi’i droi. 

Os oes unrhyw aderyn sy’n adnabyddus i bawb, y robin goch ydi hwnnw. Yn ôl beibl adarwyr Cymru, ‘The Birds of Wales’ (Pritchard et al, 2021), y robin ydi’r ail aderyn mwyaf cyffredin sydd gennym ni, ar ôl y dryw bach. Yr unig lefydd nad ydyn nhw wedi eu cofnodi ydi uchel-fannau’r mynyddoedd; fel arall maen nhw i’w gweld ymhob twll a chornel o’n gwlad. Efallai fod nifer ohonoch wedi eu rhestru dros y penwythnos yn y ‘Big Garden Birdwatch’ blynyddol.

Mae’r robin wedi ennyn edmygedd ac wedi ennill lle go arbennig yng nghalonnau pobol: mae’n un o eiconau amlycaf y nadolig; yn destun cerddi a chaneuon; yn darogan eira, ac yn enw timau pêl-droed, a chwrw hefyd. Arwydd o lwc dda i rai diwylliannau, tra bod eraill yn ei weld fel rhybudd o anlwc i ddod. Mae’r llên gwerin yn helaeth a chyfoethog iawn!

Ar wibdaith o Batagonia yn Hydref 2018, tra’n dringo llethrau Bryn y Groes yn Esquel, mi ges fy syfrdannu o wylio a gwrando ar aderyn yn bloeddio canu o ben llwyn. Loica oedd enw cyffredin yr aderyn hwnnw yno, ond roedd y Cymry wedi ei alw’n robin goch, o hiraeth am y robin annwyl yn yr hen wlad efallai. Gall holltwr blew ddadlau mae oren ydi lliw brest y robin yng Nghymru mewn gwirionedd, ond roedd bol a gwddw robin goch y Wladfa yn goch go iawn. Fel coch y swyddfa bost! 

Ac os oes croeso i gân y robin Cymreig fel un o’r ychydig adar sy’n canu yma yn y gaeaf, mae cân y loica yn gwbl hyfryd a llawer mwy cerddorol a llon. Ehedydd maes cynffonhir ydi’r enw safonol a roddwyd iddo gan banel enwi adar y byd, ar ôl y Saesneg mae’n debyg (long-tailed meadowlark, Sturnella loyca) ond mae’r enw robin goch yn fwy agos atoch a boddhaol fel enw lleol tydi.

Yn ôl ar y rhandir, tydw i ddim yn edliw i’r robin gael ambell i fwydyn, dim ond iddyn nhw beidio a bwyta pob un; mae’r pridd yno angen pob cymorth gan bryfaid genwair! Roeddwn yn swnian fod y ddaear yn wlyb ar y plot cyntaf yno ddegawd yn ôl, yn gwamalu mae dim ond reis a watercress oedd yn bosib tyfu yno. Ond pa ryfedd? Pan oeddwn yn blentyn, y Gors Fach oedd enw’r safle: lle da i ddal llyffant a genau goed (neu goeg, sef madfall ddŵr) nes i ryw awdurdod datblygu feddwl yn eu doethineb ym 1975, y dylid llenwi’r gors efo llechi er mwyn ‘tirlunio’ a chreu ardaloedd i ddenu diwydiant. Pff! Ddaeth dim ffatrïoedd, ond collwyd cyfres o gorsydd.

Heddiw mae safle’r rhandiroedd fel concrit llawn llechi ar gyfnod sych, ond fel cors mewn tywydd gwlyb. Dyma obeithio y bydd y robin a finna’n medru mwynhau darn o dir fydd yn llawn llysiau ryw ddydd, ond hefyd yn llawn blodau i ddenu peillwyr, a phwll i ddenu amffibiaid yn ôl hefyd.
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 30 Ionawr 2025 (dan y bennawd 'Eicon llên gwerin')

 

Gweddi Wladgarol. Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. 21 Hydref 2018 

 

9.1.25

Crwydro'r Foryd

Waeth imi heb a thwyllo fy hun ‘mod i’n digon trefnus i gadw addunedau ar ddechrau blwyddyn newydd; dwi’n fodlon efo arferiad y teulu i fynd am dro ar Ddydd Calan fel ymrwymiad pwysig, gan anelu fel rheol am y môr. 

Digalon ydi nodi nad oes neb yn galw am galennig acw ers blynyddoedd, ac rwan fod ein plant ninnau wedi hen adael plentyndod, tydan ni ddim yn hel tai yn y bore ers tro byd ‘chwaith. Ta waeth am hynny, gwlyb a hynod ddiflas oedd tywydd y cyntaf o Ionawr eleni a doedd hi ddim yn anodd i’m perswadio fi i ymlacio efo panad a llyfr wrth y tân, yn hytrach na chrwydro!

Gwych a chyffrous, felly, oedd codi ar yr 2il i fore barugog ac awyr las. Taenu map ar fwrdd y gegin am gip sydyn, ac anelu at Landwrog gan feddwl mynd am draeth Dinas Dinlle.  Y tro hwn, yn hytrach na mynd yn syth am y traeth, dewis cychwyn wrth fynedfa stiwdio Sain a dilyn Llwybr Arfordir Cymru tuag at y Foryd. 

Gallwch fwynhau’r Foryd o ffenest y car ar hyd ochr Llanfaglan wrth gwrs, ond rhaid mynd ar droed i’r lan orllewinol. Mae rhan gyntaf fy llwybr rhwng dau wrych, y glaswellt ar un ochr yn y cysgod ac yn farrug drosto, a chroen tenau o rew ar y pyllau yn adwy’r caeau hefyd. Ymhen ychydig, dod allan i dirlun agored, goleuach ar lan Afon Carrog, ac oedi ar y bompren i edmygu’r olygfa i bob cyfeiriad.

Edrych i gyfeiriad Yr Eifl o bompren Afon Carrog. Llun Beca Williams

Mae’n benllanw ac mae’r glastraeth a’i ffosydd a chornentydd gwythiennog, a’r mwd a’r tywod, i gyd o’r golwg dan ddŵr llonydd gloyw. Ganllath i ffwrdd mae haid o adar; pibyddion coesgoch yn bennaf o be wela’ i, a gylfinir neu ddau yn eu mysg, y cwbl yn hela yn y ddaear meddal. Cyn i mi weld yn fanwl, na mentro’n nes atynt, mae dau gerddwr wedi ymddangos ar y clawdd llanw o lwybr y maes cabannau gwyliau, a gan eu bod i’w gweld mor amlwg ar y gorwel, maen nhw’n tarfu’n syth ar yr adar, a’u gyrru i godi’n gwmwl o adennydd a hedfan am eu bywydau i’r lan bellaf dan chwibanu’n gynhyrfus wrth fynd.

Troi tua’r gorllewin wrth y maes awyr mae Llwybr yr Arfordir, ond gwell gen’ i ddilyn y clawdd llanw ymhellach i’r gogledd a chadw’r Foryd ar y llaw dde am ychydig yn hirach. Dod i ben yn ddisymwth mae’r llwybr cyhoeddus hwnnw a feiddiwn i ddim am eiliad awgrymu bod neb yn neidio’r giât a cherdded ymlaen i gyfeiriad Caer Belan, ond mae’n amlwg fod nifer yn gwneud hynny er gwaethaf arwyddion ac anfodlonrwydd ystâd Glynllifon!

Yr hyn sy’n tynnu fy sylw rhwng y warin a’r twyni tywod ym mhen gogleddol y penrhyn, ydi’r cornchwiglod sy’n hedfan yn ddiog a glanio bob-yn-ail, fel rhai sy’n dysgu hedfan awyrennau yn y maes awyr gerllaw. Dyma adar sydd wedi dioddef gostyngiad dychrynllyd yn ail hanner y ganrif ddiwethaf, ac mae’n braf cael eu gwylio am gyfnod: haws o lawer eu gweld yn y gaeaf nac yn y tymor nythu erbyn hyn yn anffodus.

Wrth gerdded i’r gwynt yn ôl tua’r de ar hyd draeth garregog hir Dinas Dinlle, mae’r awyr yn troi’n ddu dan gymylau trymion a’r Eifl yn y pellter – a oedd chwarter awr ynghynt yn amlinell eglur a’r haul tu ôl iddo, yn silhouette o graig dan awyr las- bellach dan gawod drom o eira. 

Efo mwy ar ei ffordd, roedd yn amser ei ‘nelu hi’n ôl tuag adra at y tân eto, ar ôl ychydig oriau o awyr iach mewn lleoliad trawiadol iawn.

 

Er nad oes gennyf restr o addunedau, mae Mrs Wilias a finna wedi cael rhandir eleni felly gwell fyddai ymrwymo i dorchi llewys yn fanno mae’n siwr. Mi fu gen’ i randir ar yr un safle hyd 2016 ond methu a’i dal hi ymhob man fu’r achos bryd hynny mae gen’ i ofn. Naw mlynedd yn ddiweddarach, dim ond pedwar diwrnod yr wythnos ‘rydw i’n gweithio, felly gyda lwc a dyfal donc, mi gawn rywfaint o lysiau a blodau oddi yno!

Blwyddyn newydd dda, gyfeillion, a llond y tŷ o ffa!

pibydd coesgoch
: common redshank, Tringa totanus
gylfinir: curlew, Numenius arquata
cornchwiglen: lapwing, Vanellus vanellus

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 9 Ionawr 2025