Y math gorau o ddydd Sul. Dwi wedi bod yn trio rhoi'r ardd a'r rhandir i'w gw'lau am y gaeaf, heddiw a'r Sul dwytha rhwng cawodydd.
Mae'r ffa olaf wedi eu hel a'u bwyta/rhewi, a dyma'r bwmpen y soniais amdani wsos dwytha. Ddim yn un i'w chadw ar gyfer y sioe sir, ond 'da ni'n edrych ymlaen i'w rhoi hi mewn cyri efo cig oen Cwm Cynfal.
Fel gwelwch o'r llun isod dwi wedi rhoi gorchudd/mulch o ryw fath ar bob un o welyau'r rhandir. Brethyn du gwrth-chwyn ar un o'r gw'lau mawr ac ar y gwely gwsberins; haen o ddeilbridd ar y gwely mafon; a thrwch o hopys ar y ddau arall, ym mlaen y llun.
Dew, mae o'n drewi! A'r gwenyn meirch wrth eu boddau efo fo, hyd'noed yn ail wythnos mis Tachwedd.
Welis i 'rioed nunlla fatha'r rhandir am chwyn: glaswellt yn arbennig. Mae cymaint o'r plots heb eu trin, does ryfedd bod miliynau o hadau o gwmpas y lle bob dydd o'r flwyddyn. Ond dwi ddim yn helpu fy hun mae'n siwr, trwy beidio rheoli'r gwair sy'n tyfu yn y llwybrau rhwng bob gwely... bydd yn rhaid i mi dynnu'r bysedd o'r blew.Bydd y brethyn chwyn 'ma rywfaint o help dros y gaeaf gobeithio.
Son am lwybrau, dyma sut maen nhw'n edrych ar hyn o bryd. Dwi wedi bod rhwng dau feddwl i dorri 'nghalon yn y bali lle.....
Mae'r gymdeithas randiroedd wedi cynnal dau ddiwrnod gwaith yno'n ddiweddar mewn ymgais i wella'r draeniad efo ffosydd a phibelli. Mi es i i'r cynta', ond methais fynd i'r ail.
Dwi'n ofni bod yr ymdrech fel cau giat mewn wal fylchog, neu drio cael trefn ar niwl y Migneint.Pwy ddiawl feddyliodd roi rhandiroedd ar gors?!
.jpg)
Wedi deud hynna'i gyd, pan mae rhywun yn cael teirawr yn yr haul, efo robin goch a llwyd y gwrych yn gwmni, mae'n anodd cwyno tydi!
Tafod yr ych -borage- a Charreg Flaenllym dan awyr las.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau