Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.9.13

Fel gwydr o ffwrnais awen

rhosyn Siapan
Er mai tlawd braidd ydi'r cnwd afalau Enlli acw, eto'i gyd mae'n flwyddyn aruthrol am afalau tydi. Mae'r afalau cochion ym mherllan gymunedol Plas Tanybwlch, ac ambell ardd yn demtasiwn direidus!

Mae arwydd 'Cytunwyd ar werthiant' wedi ymddangos ar y ty drws nesa' a neb yn siwr pwy ydi'r prynwr, felly dwi ddim yn debygol o gael hel afalau'r diweddar Deio eleni.

Rhaid bodloni ar helfa o afalau surion felly, ac mae'n flwyddyn arbennig i'r rheiny hefyd ym Meirionnydd, a'r ffrwythau'n tyfu fel grawnwin ar ambell goeden.





Mi helis i driphwys er mwyn gwneud jeli.
Dwi'n reit hoff o'u cyfuno nhw efo eirin tagu i wneud jeli siarp i fynd efo caws a chig, ond mae'n flwyddyn ddifrifol o sal i eirin o bob math o'r hyn wela' i yn lleol.






Dyma fentro felly, am y tro cynta', i ychwanegu egroes (mwcod; rosehips) i'r sosban efo'r afalau bach.



Rhwng y ffrwythau tew oddi ar y rhosyn Siapan (Rosa rugosa; isod) yn yr ardd gefn, a llond poced (!) oddi ar rosyn gwyllt gerllaw, roedd gen' i bwys o egroes.


Mae ambell un ohonoch yn ddigon caredig i ddychwelyd at y blog yma o dro i dro, ac wedi sylwi efallai, 'mod i'n gwneud fy ngora glas i beidio gwario pres yn ddiangen! Gall rhywun wario bom ar offer i wneud jeli, ond yr unig beth sy'n hollol angenrheidiol ydi bag mwslin. Yn enwedig os yn delio efo'r hadau a'r blewiach sydd mewn egroes. Da chi ddim isio hwnnw yn eich jam! Ond heblaw am hynny a sosban dda, does dim wir angen tacla a dyfeisiau drud.

Dwi'n hongian y bag ar fachyn o dan un o gadeiriau'r gegin, a honno wedi ei gosod ar y bwrdd efo cwpan o dan bob coes!


Rhywbeth arall dwi ddim yn talu fawr o sylw iddo ydi'r angen i adael i'r trwyth ddiferu dros nos. O 'mhrofiad i, mae'r llif yn arafu i ddim o fewn awr, a dim ond llond gwniadur ddaw ohono wedyn.

Lolbotas ydi'r pwyslais ar beidio gwasgu'r bag hefyd yn fy marn i. Isio bwyta'r jeli ydw i, dim edrych arno, felly os nad ydych yn bwriadu cystadlu yn eich sioe leol, gwasgwch y stwff i ebargofiant. Ond gadwch iddo oeri 'chydig gynta: mae o'n beryg bywyd am awr neu ddwy!

Mi wnes i gamgymeriad y tro yma dwi'n meddwl. Bysa 'di bod yn well taswn i wedi berwi'r egroes arwahan i'r afalau, er mwyn eu meddalu chydig mwy. Ta waeth. Gorau arf, dysg.

Mi ges i 1.2 litr o hylif, felly dyma'i ddychwelyd i sosban lan, ac ychwanegu 900g o siwgr wrth iddo g'nesu. Dyma lle mae'r alcemi rhyfeddol yn digwydd. Mae'r siwgwr yn troi'r hylif o fod yn gymylog a gwael ei flas, i fod yn sudd gloyw, blasus, gwych.

Hud a lledrith. Fel toddi gwydr ar gyfer ffenest eglwys. Llond potiau o ambr melyngoch hyfryd.


Byddai berwi'r egroes yn hirach wedi rhoi mwy o gochni i'r jeli mae'n siwr ond dwn 'im faint yn fwy o flas fyddai wedi ychwanegu. Fel y mae pethau, mae hanner dwsin o botiau o jeli hynod flasus acw rwan. Ac mi gawson ni rhywfaint efo sgons yn gynnes o'r popdy, a menyn hallt Cymreig.

Mwyar duon fydd nesa, ar ol imi hel digon o fynadd i olchi'r holl lestri a geriach eto!


2 comments:

  1. Hud y lliw a ddaw o ferwi ffrwyth â siwgir: mae'r un peth yn digwydd gyda jeli clesin, sy'n edrych yn llwydwinau diflas nes iddo gwrdd â'r siwgir a throi'n sgarlad. Sut flas sydd ar yr egroes? Ydy'n ddigon cryf i orchfygu blas yr afal?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ti wedi taro ar gwestiwn anodd rwan! Dwi heb flasu surop egroes erioed, felly dwi ddim yn siwr pa flas sydd arnyn nhw. Dwi'n cofio darllen yr idiom 'diflas fel jam afal' rywdro ac mae'r syniad yna wedi aros efo fi ers hynny. Does gen' i ddim syniad lle ddarllenais i o (oes rhywun arall yn gyfarwydd a'r dywediad?). Tydi hwn yn sicr ddim yn ddi-flas, ac nid blas afal yn unig sydd iddo chwaith. Anodd disgrifio'r blas, ond mae o'n plesio digon i mi edrych ymlaen i wneud mwy y flwyddyn nesa!

      Delete

Diolch am eich sylwadau